{"product_id":"positifrwydd-pinc-cymru-drwy-lygaid-merched-y-wawr","title":"Positifrwydd Pinc: Cymru drwy lygaid Merched y Wawr","description":"\u003cp\u003eMae llyfr arbennig iawn yn cael ei gyhoeddi y mis hwn: llyfr sydd wedi’i ysgrifennu gan ddegau o awduron o bob rhan o Gymru! Mae Positifrwydd Pinc: Cymru drwy Lygaid Merched y Wawr yn deillio o syniad gan Bethan Picton-Davies, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr, oedd am greu llawlyfr cyfleus i bobl i bori drwyddo a’i gario yn y car; llyfr sy’n tynnu ar wybodaeth eang aelodau’r mudiad ledled Cymru am eu hardaloedd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMedd Bethan, ‘Roeddwn am greu adnodd fyddai’n ddefnyddiol i aelodau’r mudiad yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol; adnodd i oroesi fy llywyddiaeth innau. Rydyn ni i gyd yn hoff o deithio o amgylch Cymru – gobeithio y bydd y llyfr hwn yn gydymaith hwylus.’\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYn y gyfrol mae pennod gan bob un o 13 o ranbarthau Merched y Wawr, yn cyflwyno hanes a chwedlau lleol, teithiau cerdded, atyniadau lleol a ryseitiau. Mae yma hefyd flas ar dafodiaith a dywediadau unigryw’r rhanbarthau.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eBydd yr elw o werthiant y llyfr yn mynd i Ymchwil Canser Cymru, yr elusen mae Bethan wedi dewis ei chefnogi drwy gydol cyfnod ei llywyddiaeth, a gwaith\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMerched y Wawr. Mae’r gyfrol wedi’i henwi ar ôl yr ymgyrch codi arian – ymgyrch sydd wedi gweld aelodau Merched y Wawr yn gwisgo pinc â balchder er mwyn cefnogi’r achos.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e‘Rwy’n falch iawn fod y llyfr yn cael ei gyhoeddi, ac yn falch fod y rhan fwyaf o’r elw’n mynd tuag at waith gwerthfawr Ymchwil Canser Cymru,’ eglura Bethan. ‘Mae hon wedi bod yn daith emosiynol iawn i mi yn bersonol, ac mae’n golygu cymaint cael gweld y syniad hwn yn dwyn ffrwyth. Hoffwn ddiolch o waelod calon i Meinir a staff y swyddfa, sydd wedi cydlynu’r cyfan, i bob un o ranbarthau Merched y Wawr ledled Cymru sydd wedi cyfrannu at y prosiect hwn, ac i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser, eu hegni a’u cefnogaeth i wireddu’r fenter. Bydd y llyfr yn siŵr o fod yn anrheg Nadolig ystyrlon ac arbennig.’\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eYn cefnogi Bethan mae Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Genedlaethol Merched y Wawr. ‘Mae hi wedi bod yn fraint cydweithio â Gwasg Carreg Gwalch i gyhoeddi’r llyfr arbennig hwn – y trydydd llyfr i ni ei gyhoeddi gyda’r wasg,’ medd Tegwen. ‘Rwy’n dychmygu gweld y gyfrol hon yn teithio ar draws Cymru, gyda phobl yn cael mwynhad o ddod i adnabod ein gwlad trwy lygaid Merched y Wawr. Diolch i’r holl aelodau sy’n ysbrydoli ein gwaith yn ddyddiol.’\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003ca href=\"https:\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/Positifrwydd_Pinc_-_MyW_Detholiad.pdf?v=1795547172\"\u003e\u003cspan style=\"text-decoration: underline; color: rgb(43, 0, 255);\"\u003e\u003cem\u003e\u003cstrong\u003eEdrych tu mewn\u003c\/strong\u003e\u003c\/em\u003e\u003c\/span\u003e\u003c\/a\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDyma gipolwg ar Gymru drwy lygaid aelodau 13 rhanbarth Merched y Wawr: llawlyfr defnyddiol i bawb sy’n caru Cymru. Cewch yma gip ar hanes a threftadaeth,\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003echwedlau, teithiau cerdded, tafodiaith a ryseitiau o bob cwr o’r wlad: yr union beth i’w gadw yn y car i bori trwyddo wrth i chi grwydro ar hyd a lled ein gwlad.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae geirfa yn y cefn ar gyfer siaradwyr newydd.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae’r elw o werthiant y gyfrol hon yn mynd i Ymchwil Canser Cymru a Merched y Wawr.\u003c\/p\u003e\n\u003cul\u003e\n\u003cli class=\"sf-book-details__custom\"\u003e\n\u003cstrong\u003eIaith: \u003c\/strong\u003eCymraeg\u003c\/li\u003e\n\u003cli class=\"sf-book-details__format\"\u003e\n\u003cstrong\u003eFformat: \u003c\/strong\u003eClawr Meddal\u003c\/li\u003e\n\u003cli class=\"sf-book-details__isbn\"\u003e\n\u003cstrong\u003eISBN: \u003c\/strong\u003e9781845246464\u003c\/li\u003e\n\u003cli class=\"sf-book-details__pages\"\u003e\n\u003cstrong\u003eTudalennau: \u003c\/strong\u003e170\u003c\/li\u003e\n\u003cli class=\"sf-book-details__pubdate\"\u003e\n\u003cstrong\u003eDyddiad Cyhoeddi: \u003c\/strong\u003e27\/11\/2026\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ul\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57781599142263,"sku":null,"price":19.0,"currency_code":"USD","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/PositifrwyddPincclawr.jpg?v=1795546968","url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/products\/positifrwydd-pinc-cymru-drwy-lygaid-merched-y-wawr","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}