{"product_id":"teulu-stori-plant-yr-ysgwrn","title":"Teulu - Stori Plant yr Ysgwrn","description":"\u003cp\u003eEfallai eich bod wedi clywed am Hedd Wyn, bardd y Gadair Ddu.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eBu'n rhaid iddo adael fferm yr Ysgwrn, Trawsfynydd, a mynd i frwydro yn y Rhyfel Mawr. Bu farw Hedd Wyn yn y ffosydd, ond mae ei stori yn parhau'n fyw o hyd.  Yn y gyfrol hon, cewch ddod i adnabod teulu'r Ysgwrn, a'r ddau frawd Elsyn a Gerald.  Iddyn nhw yn bennaf mae'r diolch ein bod yn dal i fedru ymweld â'r Ysgwrn hyd heddiw.\u003c\/p\u003e\n\u003cdiv class=\"biblio_info1\"\u003eBywgraffiad Awdur:\u003c\/div\u003e\n\u003cdiv class=\"biblio_info\"\u003eMae Haf Llewelyn yn awdur a bardd, gan ysgrifennu ar gyfer oedolion, pobl ifanc a phlant. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau darllen ar gyfer plant gan gynnwys y gyfres boblogaidd Ned y Morwr, Y Lolfa, ar gyfer plant sy’n dechrau darllen yn annibynnol. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2014 gyda'r nofel Diffodd y Sêr.\u003cbr\u003eBu’n gyd-gyfrifol am greu adnodd darllen ar lein ar ffurf cylchgrawn misol o’r enw y Cliciadur\/ Clic-it.\u003cbr\u003eMae gan Haf Llewelyn brofiad eang ym maes dysgu darllen, bu’n Athrawes Gynradd, yn Athrawes Ymgynghorol ac yn Ymgynghorydd Iaith am bron i 30 mlynedd. Bu’n gyfrifol am greu cyrsiau hyfforddi ym maes llythrennedd, ac yn arbennig mewn datblygu darllen, gan greu adnoddau a chreu sesiynau enghreifftiol trwy Gymru gyfan. Bu’n gweithio ar brosiectau pontio yng Ngwynedd a bu’n llywodraethwr ysgol gyda chyfrifoldeb am lythrennedd am dros 20 mlynedd. Bu hefyd dros y blynyddoedd ar sawl panel ymgynghorol ym meysydd llythrennedd a hanes.\u003cbr\u003eMae bellach wedi ymddeol, ac mae ganddi 6 o wyrion. Mae’n parhau i ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys creu llyfrau ac adnoddau darllen ar gyfer Darllen Co. Mae’n dal i deimlo’n angerddol am greu llyfrau difyr, doniol a gwreiddiol ar gyfer holl blant Cymru.\u003cbr\u003e\u003cbr\u003eArtist a darlunydd o ardal Pen Llŷn yw Elin Mair Roberts. Mae’n gweithio â llaw, yn bennaf mewn inc, ac yn mwynhau archwilio lliwiau a gweadau yn ei gwaith. Ar ôl iddi raddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2023, mae wedi cael y cyfleoedd i weithio ar lu o gomisiynau, yn cynnwys ei gwaith diweddar ar gyfer Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Caiff ei hysbrydoli gan y byd o’i chwmpas, ei diddordebau yn y celfyddydau, a digwyddiadau cyfredol. Cafodd lwyddiant a chanmoliaeth uchel am ddarlunio'r gyfrol 'Madog' i Wasg Carreg Gwalch yn Awst 2025.\u003cbr\u003eGwefan: https:\/\/www.elinmairroberts.com\/\u003c\/div\u003e\n\u003cdiv class=\"biblio_info\"\u003e\n\u003cdiv class=\"biblio_info1\"\u003e\u003cbr\u003e\u003c\/div\u003e\n\u003cdiv class=\"biblio_info1\"\u003eGwybodaeth Bellach:\u003c\/div\u003e\n\u003cdiv class=\"biblio_info\"\u003eYn y gyfrol hon ceir dau lyfr. Yn y llyfr cyntaf cawn stori ddychmygol drwy lygaid Gerald Williams, wrth iddo ef a’i frawd Ellis fynd i fyw at eu nain a’u taid yn dilyn colli eu mam yn ifanc. Cyflwynir stori Hedd Wyn, ond yn fwy na hynny, cyflwynir y syniad o golled a hiraeth, a phwysigrwydd teulu er mwyn goresgyn hynny.\u003cbr\u003eYn yr ail lyfr, cawn ddeunydd ffeithiol sy’n gefndir i’r stori, er mwyn rhoi hanes a chyd-destun i’r cyfnod. Cawn gyfle i werthfawrogi awyrgylch yr Ysgwrn a’r fferm fynydd Gymreig. Cawn hefyd olwg ar y weledigaeth i gadw’r lle fel canolfan i’r cenedlaethau i ddod, a’r hyn sydd yn yr Ysgwrn heddiw.\u003c\/div\u003e\n\u003cdiv class=\"biblio_info\"\u003e\n\u003cbr\u003eBroliant.\u003cbr\u003eLlyfr 1 - Mae pethau’n anodd wrth i Gerald Williams adrodd ei stori amdano ef a’i frawd Ellis yn symud i fyw at eu nain a’u taid yn dilyn marwolaeth eu mam yn ifanc. Dyma stori am gariad teuluol sy’n goresgyn ofnau, ac yn dod â hapusrwydd i’r rhai sydd ar ôl drwy gefnogi ei gilydd.\u003cbr\u003eLlyfr 2 – Dysgwch am gefndir, traddodiadau a chyd-destun y cyfnod hwn ar fferm fynydd Gymreig, yn ogystal â’r hyn sydd i’w weld yn yr Ysgwrn heddiw, yn dilyn y weledigaeth i greu canolfan i gadw’r lle ar gyfer y dyfodol.\u003c\/div\u003e\n\u003cdiv class=\"biblio_info\"\u003e\u003cbr\u003e\u003c\/div\u003e\n\u003cdiv class=\"biblio_info\"\u003e\n\u003cul\u003e\n\u003cli\u003e\u003cspan class=\"biblio_isbn\"\u003eISBN: 9781845248123\u003c\/span\u003e\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003eCyhoeddi: 19 Mehefin 2026\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003eDarluniwyd gan Elin Mair Roberts\u003c\/li\u003e\n\u003cli\u003eFformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 100 tudalen\u003c\/li\u003e\n\u003c\/ul\u003e\n\u003c\/div\u003e\n\u003c\/div\u003e","brand":"Gwasg Carreg Gwalch","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":57139351093623,"sku":null,"price":7.99,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0795\/2370\/9229\/files\/Teulu-StoriPlantyrYsgwrn7clawrMai26.jpg?v=1780311901","url":"https:\/\/carreg-gwalch.cymru\/products\/teulu-stori-plant-yr-ysgwrn","provider":"Gwasg Carreg Gwalch","version":"1.0","type":"link"}