Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti?
Disgrifiad | Description
- Pwy Ti'n Feddwl Wyt Ti?
- ISBN: 9781845276966
- Eirlys Wyn Jones
- Cyhoeddi Gorffennaf 2019
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm
Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Eirlys Jones ei magu ar y ffin rhwng Llŷn ac Eifionydd. Bu hi a’i gŵr yn ffermio yng nghartref y teulu yn Chwilog nes iddynt ymddeol yn 2017, a dim ond bryd hynny y bu iddi droi at ysgrifennu. Mentrodd anfon y nofel hon (gydag anogaeth ei gŵr) i gystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Delyth wedi cyrraedd ei chanol oed heb unwaith roi ei hun yn gyntaf. Wnaeth hi erioed ddewis cwrs ei bywyd - dim ond dewis priodi ffermwr cyn syrthio i rigol byw a magu plant. Ond yn dilyn ffrae gyda’i chwaer mae’n gwneud penderfyniad fydd yn newid ei bywyd am byth ... ac yn ei harwain at gyfrinachau’r gorffennol.
Cafodd y nofel hon ganmoliaeth yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Caerdydd, 2018. ‘Er mor syml yw’r stori, eto ceir dyfnder iddi a diffuantrwydd’
Meinir Pierce Jones
‘Prif gymeriad diddorol mewn sefyllfa gymdeithasol gyfoes, gredadwy’
Gareth Miles