Rhagom

  • ISBN: 9780863819391
  • Awdur: Angharad Tomos
  • Cyhoeddi Hydref 2004
  • Fformat: Clawr Meddal, 182 x 123 mm, 232 tudalen

Nofel afaelgar yn portreadu effeithiau dirdynnol rhyfel ar fywydau dwy genhedlaeth o'r un teulu, sef brawd nain yr awdures a oroesodd frwydr waedlyd coedwig Mamets cyn cael ei ladd ym mrwydr gyntaf Gasa yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a'i hewythr a wasanaethodd yn y Dwyrain Canol yn yr Ail Ryfel Byd.

Adolygiad Gwales
A naw deg mlynedd wedi mynd heibio ers ei ddechrau, mae nofel ddiweddaraf Angharad Tomos yn tystio nad yw gafael y Rhyfel Byd Cyntaf ar y dychymyg Cymreig wedi llacio dim. Yr un pryd â Rhagom, cyhoeddir ail nofel Mari Emlyn, Traed Oer, sydd hefyd yn cyfeirio’n ôl at ryfel 1914-18 ac er 1999 cyhoeddwyd nofelau sylweddol gan Eirug Wyn a Gwyn Llewelyn hwythau yn ymdrin â’r un gyflafan. Yn Saesneg wedyn, gan ddwy ferch, y nofelydd Pat Barker a’r hanesydd Joanna Bourke, y cafwyd rhai o’r dadansoddiadau mwyaf gwreiddiol â’r rhyfel yn ystod y 1990au.

Ond er ei bod yn camu i faes a droediwyd gan eraill o’i blaen, mae’r nofel hon yn arwyddo datblygiad newydd mewn mwy nag un ystyr i Angharad Tomos: dyma’i nofel hanes gyntaf, y nofel gyntaf na sgrifennodd o safbwynt protagonydd a thraethydd benywaidd a’r gyntaf na chyhoeddwyd mohoni gan y Lolfa.

Enghraifft o ffeithlen neu faction yw Rhagom a chyfrol a brofa drachefn, yr un fath â Si Hei Lwli a Hiraeth am Yfory, gloddfa mor gyfoethog yw hanes ei theulu i Angharad Tomos. Ond er y sylfeini ffeithiol, rhannau mwyaf llwyddiannus y nofel yw’r rhai mwyaf amlwg ffuglennol – neu felly y dyfalaf – lle dilynir hynt ‘criw Cofis’, hynny yw, y criw ffrindiau o dref Caernarfon a ymaelododd â’r fyddin tua’r un pryd. Un o ddelweddau cryfaf y nofel, ac un sy’n magu grym symbolaidd, yw’r un o’r gwmnïaeth a’r closrwydd rhwng y rhain a’r chwalfa a ddaw i ran hyd yn oed yr unig ddau oroeswr o’u plith.

Fel y profodd Angharad Tomos yn Wele’n Gwawrio, mae hi – a Robin Llywelyn, o ran hynny – yn giamstar ar bortreadu cyfeillgarwch, ac fel y dywed Rhys yn hyfryd o naturiol pan â i ymweld â hen gyfaill ei Yncl Gwil, ‘Mi fyddwn wedi leicio bod yn ffrind yr un oed ag o’. Mae rhai o enwau priod y criw dan sylw - Angal, Bwgan, Twll, Chwech – hefyd yn ychwanegiadau difyr at y casgliad a geir yng ngweithiau ffuglennol Angharad Tomos i oedolion a phlant.

Er mor anorfod wrywaidd yw’r maes yr ymdrinnir ag ef, synhwyrir bod cryn dipyn o ysbryd a natur Angharad Tomos ei hun wedi eu crynhoi yng nghymeriad Hannah, chwaer y prif gymeriad a mam y traethydd: mae honno’n ferch ifanc annibynnol sy’n awchu am ryddid i deithio’r byd, sy’n gefnogol i ymgyrch y Suffragettes, ac sy’n rhwystredig o orfod rhoi’r gorau i’w swydd ddysgu pan yw’n priodi. Fe’m hatgoffwyd hefyd am Ann Owen, arwres anniddig a gwrthryfelgar Tegwch y Bore gan Kate Roberts a nofel arall amser rhyfel, gan y portread hwn o Hannah. A hi efallai fuasai’r dewis mwyaf greddfol ar gyfer traethydd i nofel gan Angharad Tomos. Un o gryfderau eraill y nofel yw’r modd y rhoddir mynegiant i’r amrediad o deimladau a thensiynau a gynhyrfir gan y rhyfel, boed o safbwynt milwyr amheugar ynghanol y brwydro neu wrthwynebwyr cydwybodol amhoblogaidd a merched consyrnol gartref yng Nghaernarfon.

Dyw’r briodas yn y nofel rhwng y llenor ffuglen a’r awdur hanes ddim yn gwbl esmwyth na chytbwys: fwy nag unwaith, cawn fod yr adrodd hanes yn rhy ymwthgar yn lle ei fod wedi ei weu i mewn i’r naratif ac mae’r adran ‘Yn Ewrop, yn y cyfamser ...’ ar ddiwedd Pennod 2, yn dra anghelfydd. Yn un peth, onid yw’r prif ffeithiau hanesyddol yn bur gyfarwydd eisoes ac i’w canfod yn rhwydd mewn cyfeirlyfrau dirifedi? Digonol gen i hefyd oedd cael persbectif y nai o gyfnod yr Ail Ryfel Byd ar hanes ei ewythr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac ni theimlwn fod angen trydydd persbectif ar ffurf y ‘Gyda llaw ...’ eglurhaol ar y diwedd a gynhwysai ymdrech orymwybodol i danlinellu perthnasedd cyfoes y nofel. Nid bod raid wrth hynny, eithr onid awgrymwyd perthnasedd o’r fath yn gynilach gan y math o sylwadau a gaed ym mhennod 6? A chyda llaw, at y Rhyfel Byd Cyntaf yn hytrach na’r Ail Ryfel Byd y cyfeiria’r dyfyniad a briodolir i Syr Edward Grey yn y prolog – fel y nodir yn gywir yn Yma o Hyd!

Ni pheryglir statws Angharad Tomos fel Ein Llenor Benywaidd Pwysicaf, chwedl Dafydd Morgan Lewis, gan y nofel hon. Serch hynny, cafodd Angharad arall – Angharad Price – well hwyl na hi ar drin genre anodd ffeithlen yn ei champwaith bach O! Tyn y Gorchudd. Fy argraff derfynol o Rhagom yw un o gyfrol a ddaliwyd rhwng dwy stôl – rhwng yr awydd cywir i dalu gwrogaeth i ddarn o hanes teuluol drwy ei roi ar gof a chadw, a’r penderfyniad i lunio gwaith ffuglennol a ysbrydolwyd gan hanes teuluol ond un yn meddu ar ei fywyd creadigol ei hun. Cyflawnwyd amgenach camp greadigol yn Si Hei Lwli – nofel a ysgogwyd gan fywyd chwaer i’r un sy’n sail i brif gymeriad y nofel hon – lle gwelir Angharad Tomos yn ymorchestu yn rhyddid y nofel ac yn llwyddo i reoli’r hanesydd ynddi i raddau na lwyddodd i’w wneud yn ei nofel ddiweddaraf.

Gerwyn Wiliams

Product Code: ISBN: 9780863819391