Siwrne Lawn - Straeon a Cherddi Gwilym Herber
Disgrifiad | Description
- Awdur: Gwilym Herber
- Golygydd: Euros Jones Evans
- Dyddiad Cyhoeddi: Gorffennaf 2006
- Fformat: Clawr Meddal, 182x123mm, 136 tudalen
Adolygiad Gwales
Un o’r werin bobl hynny â dawn barddoni ac i adrodd straeon yw Gwilym Herber. Fe’i disgrifir gan Euros Jones Evans yn y Rhagair fel un sydd â dawn anghyffredin fel storïwr a bardd yn y mesurau caeth a rhydd.
Yn y gyfrol hon, ceir 135 o dudalennau sy’n cynnwys cerddi ac ysgrifau. Yn y rhan gyntaf, ‘Atgof a Chwedl’, cyplysir y straeon a’r cerddi gyda’i gilydd o dan wahanol benawdau. Ceisiwyd gosod yr ysgrifau a’r cerddi yn yr adran hon mewn trefn gronolegol, ac ynddynt fe ddaw’r darllenydd i wybod mwy am gefndir a theulu a magwraeth yr awdur. Y mae dylanwad y fro yng Nghwm Tawe yn drwm arno. Fel cyn-löwr, fe’i disgrifir mewn englyn gan Emyr Lewis fel ‘gwerinol beiriannydd’. Ceir gan Gwilym Herber yn y gyfrol hon ddarlun o gymdeithas a chyfnod sy’n gofnod o hanes wedi’i gyflwyno mewn modd diddorol. Ceir yma ddwyster (fel sy’n yr ysgrif ‘Ap Llywelyn’) a diniweidrwydd plentyn (yn yr ysgrif ‘Siop y Crydd’), a daw ei ddawn i adrodd stori i’r amlwg mewn ysgrif fel ‘Y Bardd-Focsiwr’.
Cynhwysir dros 130 o gerddi yng ngweddill y gyfrol. Englynion ydynt gan fwyaf, sydd eto’n codi o fro mebyd Gwilym Herber. Ceir yma gerddi cyfarch, cerddi am fywyd diwydiannol a bywyd amaethyddol, cerddi ar destunau crefyddol, a cherddi sy’n codi o’r bywyd diwylliannol. Ceir yn ogystal ambell gerdd yn y mesurau rhydd, penillion telyn a dau emyn.
Dyma gasgliad a fydd yn bendant o ddiddordeb i drigolion Cwm Tawe. Ond yn fwy na hynny, dyma gyfrol y gall unrhyw Gymro ei darllen yn hamddenol a’i mwynhau.
Delyth Morgans