Stwff y Stomp 2

ISBN: 9781845272043
Cyhoeddi Ebrill 2008
Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 120 tudalen

Pigion o gerddi'r Stomp gan feirdd poblogaidd, wedi'u casglu ynghyd gan Myrddin ap Dafydd. Casgliad o gerddi doniol a dwys sy'n ddilyniant i'r gyfrol gyntaf, Stwff y Stomp.

Adolygiad Gwales
Erbyn hyn, mi fydd y beirniaid llenyddol a’r ysgolheigfeirdd i gyd wedi cnoi a chrensian trwy benolau eu beiros, gan fod Stwff y Stomp 2 bellach ar werth ar silffoedd barddoniaeth Gymraeg.

Dyma gasgliad amrywiol o gerddi gan feirdd (ynteu stompiadau gan stompwyr? – onid yw ‘stompio’ yn grefft ynddi’i hun bellach?) adnabyddus a phoblogaidd megis Myrddin ap Dafydd, Dewi Prysor, Geraint Løvgreen, Eurig Salisbury ac Arwel Pod. Gogoniant cyfrol o’r fath yw gallu cwmpasu cymaint o wahanol leisiau ac arddulliau barddonol o fewn yr un cloriau, boed yn ganu rhydd, canu mydr ac odl, canu caeth, yn stompio anweddus, hiraethus, boed yn wleidyddol neu’n bur ddoniol.

Cerddi byw yw’r rhain wrth gwrs, cerddi sy’n mynnu ymateb cynulleidfa ac yn dibynnu ar berfformiad yn hytrach na darlleniad. Dyna be sy’n denu beirdd go iawn, dyna’r wefr. Mae’n anochel mewn cyfrol fel hon, felly, y gall darllenydd deimlo fod elfen berfformiadol ar goll wrth ddarllen rhai o’r cerddi ar bapur. Ond eto, mor aml, y profiad y bore wedi stomp yw cofio cael môr o hwyl, ond methu’n glir â chofio’n iawn pam, a phawb yn ceisio cofio’r llinell anfarwol honno, neu’r jôc gwbwl anweddus a achosodd cymaint o firi. Dyma gyfle felly i ail-fyw ac ailflasu rhai o’r cerddi hynny mewn manylder pellach dro ar ôl tro.

Mae llawer o’r cerddi yn gwbl gyfoes, sydd dal yn cael eu stompio rŵan, ac eraill fymryn yn hŷn, ond buan y tywysir y darllenydd o Sir Benfro i Gaernarfon, ac o Gaerdydd i Geredigion i deimlo cynnwrf sawl noswaith o stomp ledled y wlad.

Amrywia pynciau’r cerddi o ddiffyg awen, campau rhywiol, gwleidyddiaeth grafog, metatarsal Rooney, steiliau gwallt a thrafferthion mewn tai bach. O ‘Wiwerod Wil Wanc’ Dewi Prysor, y cerddi ‘Pod-aidd’ nodweddiadol neu gerdd glo’r gyfrol, ‘Sgwrs Nos Wener’ gan Siân Northey, bydd rhywbeth yma at ddant pawb.

Does dim angen bod yn gyfarwydd â nosweithiau stomp i werthfawrogi a mwynhau’r gyfrol hon, dim ond efallai cadw’r meddwl yn agored, a rhoi’r traed i fyny.

Osian Rhys Jones
Product Code: ISBN: 9781845272043