Stwff y Stomp

Stwff y Stomp

Disgrifiad | Description

  • ISBN: 9780863817892
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2002
  • Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 130 tudalen

Casgliad difyr o gerddi doniol a dwys i ennyn ymateb yn syth gan gynulleidfa, sef deunydd a gyfansoddwyd yn wreiddiol ar gyfer y stompiau barddoniaeth, cystadlaethau barddol anffurfiol.

Adolygiad Gwales
‘Maen nhw’n cyhoeddi stwff y stomp,’ meddai rhywun, rhywle. ‘I beth?’ meddwn i wrthyf fy hun. ‘Dy’n nhw ddim yn gerddi i’w darllen (yn sobor).’

Ond ces afael ar gopi, ei ddarllen a’i gloriannu, ac yna sgrifennu…gan ddechrau odli . . . ac yna sylweddoli . . . taw anodd yw darllen odlau a rhythmau rhywun arall, yn enwedig rhai y bwriadwyd iddynt gael eu perfformio gan ddibynnu ar dafod slic y perfformiwr i droi’r llac yn llyfn.

Dyna oedd y teimlad a gefais wrth fwrw golwg dros y gyfrol am y tro cyntaf. Yn ystod y bwrw golwg cychwynnol hwnnw hefyd fe’m trawyd gan y ffaith nad o’n i wedi cael peint neu ddau, fel sydd yn angenrheidiol adeg stomp, ac efallai taw dyna pam na chefais nifer o’r cerddi mor glyfar a slic â phan y’u clywais am y tro cyntaf.

Ffactor arall a arweiniodd at hynny oedd y ffaith ’mod i’n profi sawl un o’r cerddi yma eto yn nhawelwch fy nghartref, heb sŵn bar a chlecian gwydrau, heb sibrwd rhai llai na sobor, a heb fwg yn fwgwd i’r beirdd. Felly roedd y cerddi, gan gynnwys un Nia Môn am y ‘cogydd noeth’, yn noethach fyth, ac ro’n i’n talu mwy o sylw!

Mae talent sawl un yn cael ei dinoethi yn y gyfrol —'beirdd' yn gweithio’r gynghanedd gan adael ystyr a chrefft yng nghiw y dôl yn cadw cwmni i sawl cerdd rydd. Ac mae ’na lot o gachu ’ma hefyd, yn llythrennol, ond gallwn ond gobeithio y bydd profiad stomp Tyddewi wedi dysgu gwers i ambell un na chewch chi glap wrth wastad sôn am grap.

Serch hynny, wrth gwrs, mae ’na sawl bardd yma sydd â chrap ar eu crefft, a phleser oedd profi ambell berl eto – y cerddi er cof am Dafydd Rowlands er enghraifft sydd, efallai, yn annodweddiadol o stomp ond sydd yn hawlio’u lle yn y gyfrol o flaen nifer fawr o enghreifftiau eraill. Ymysg fy ffefrynnau mae cyfraniadau clyfar Iwan Llwyd; Grahame Davies am fod yn ddoniol, yn ddifrifol ac yn fythol grafog; a sawl un arall am, yn syml, wneud imi chwerthin.

Taswn i ’di cau fy llygaid wrth ddarllen ‘Dal fy Llaw’ a ‘Steddfod Dinbych 2001’, gallen i fod wedi tyngu bod Dewi Pws a Geraint Lovgreen yn yr ystafell gyda mi, mor gyfarwydd yw eu hiwmor a’u lleisiau. Ond nid yw hyn yn wir am bob cyfrannwr, ac nid oedd modd gwybod bob tro ym mhle y byddai’r beirdd wedi dewis lliwio’u gwaith â llais neu ystum wrth berfformio.

Eto i gyd, er imi sôn am bwysigrwydd y perfformio ac awyrgylch tafarn, ro’n i’n falch ar adegau o’r tawelwch wrth ddarllen, yn enwedig gan fod ambell gyfraniad, fe dybiaf, yn arbrawf – a da o beth yw hynny – lle’r oedd y pwyslais ar berfformio wedi gwadu sylw i’r geiriau. Soniaf am gerddi megis ‘Symud i fyw’ gan Gwion Hallam, a ‘Y mawr a’r bach’ gan Ifor ap Glyn. Efallai nad yw ysgaru geiriau a llais bob amser yn beth da . . . ond fe adawa’ i i chi benderfynu yn achos yr enghreifftiau uchod, a gweddill y casgliad!

Oes, mae yma ffraethineb, doniolwch a dwyster sydd, mewn ambell enghraifft yn unig, yn ennyn yr emosiwn cywir yn y darllenydd, ond tybed a fyddai cynulleidfa fyw yn dweud yr un modd? Dywedodd rhywun, rywdro, mai barddoniaeth yw’r hyn a gollir wrth gyfieithu cerddi. Ni allaf lai na theimlo, fel un a fu mewn sawl stomp, fod y farddoniaeth yn nifer o gerddi’r gyfrol yn cael ei chreu gan y berthynas rhwng y bardd a’i gynulleidfa, ac efallai iddi fynd ar goll yma hefyd, ar y daith rhwng y llwyfan a’r llyfr.

Eto i gyd – a gwn fy mod yn gwrthddweud fy hun yn gyson – mae’r gwrthwyneb yn wir am nifer o’r cyfraniadau, megis ‘Llys Rhys Gryg yn y Dryslwyn’ gan Iwan Llwyd, ‘Yn nrws Archfarchnad’ gan Rhys Dafis, a sawl un arall. Credaf mai dim ond o’u darllen y gellir gwir werthfawrogi’r cerddi hyn, a dim ond o ddarllen cyfrol fel hon y gellir gwir werthfawrogi’r ymdrech a wneir i gynhyrchu’r deunydd i gynnal stomp lwyddiannus. Fel y dywed yr hen ddihareb, ‘llyfna’r gerdd, mwya’r llafur’.

Felly, i’r rhai na fu, ac i’r rhai a fu, mewn stomp, darllenwch! Ocê, does ’na 'run dihareb o’r fath . . . ond fe ddylai fod!

Lisa Tiplady

Pris | Price : £5.00

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers