Swyddi
Teitl: Golygydd Creadigol
Ydach chi awydd gweithio ar lyfrau deniadol i oedolion?
Mae Gwasg Carreg Gwalch yn chwilio am Olygydd Llyfrau Oedolion
Mae gan y Wasg gynlluniau i dorri tir newydd gyda rhaglen o gyhoeddiadau fydd yn apelio at do newydd o ddarllenwyr.
Mae hon yn swydd ran-amser oddeutu deuddydd yr wythnos, ac yn gyfle i weithio ar raglen ddeniadol gyda phobl greadigol.
Croeso i geisiadau gan olygyddion profiadol a rhai sydd yn newydd ond yn frwdfrydig am y maes.
Dyddiad cau: 3.00 y pnawn, 28 Gorffennaf, 2023.