Swyddi
Golygydd rhaglen blant Gwasg Carreg Gwalch 2022
Manylion y swydd:
- Mae’r gwaith yn cynnwys cynorthwyo i greu a rheoli rhaglen gyhoeddi llyfrau plant Cymraeg y wasg. Mae’n golygu comisiynu, arolygu datblygiad cyfrol, creu ceisiadau dylunio ac arlunio lle bo angen a rheoli gwaith golygu technegol gydag Adran Olygyddol y Cyngor.
- Gall y swydd gael ei lleoli ym mhrif swyddfa’r wasg yn Llanrwst neu yn Llwyndyrys neu gartref. Rhwng 70 a 110 awr y mis gyda chyflog rhwng £15 a £17.50 yr awr, yn cynnwys nawdd Cyngor Llyfrau Cymru a chyfraniad y wasg, yswiriant gwladol ac ati. Gobeithiwn sicrhau person profiadol, gyda safonau uchel ym meysydd cywirdeb iaith a golygu creadigol i weithio ar amrediad eang o deitlau. Gallwn fod yn eithaf hyblyg o safbwynt patrwm gweithio wythnosol.
- Bydd y golygydd hefyd yn creu broliannau a rhaglennu cloriau ar gyfer yr holl deitlau yn y rhaglen blant, yn creu datganiadau i’r wasg, trefnu digwyddiadau lansio a rhoi gwybodaeth ar wefan y wasg, cyfryngau cymdeithasol ac yn paratoi deunydd addysgol i athrawon ar gyfer rhai teitlau.
- Bydd yn golygu rheoli comisiynau awduron – trafod cyson ar ddatblygiad pob prosiect, sicrhau cadw at ddedleins, deall a chadw at steil gysodi’r wasg a chyflwyno ceisiadau i’r Cyngor Llyfrau. Bydd yn cynnwys cydlynu a dangos enghreifftiau o arlunwaith a dylunio i Adran Ddylunio’r Cyngor Llyfrau a dylunwyr eraill ac ateb gofynion marchnata adran fasnachol y Cyngor Llyfrau.
- Bydd yn golygu rheoli golygu technegol, amserlennu, trafod datblygiad y gwaith gydag Adran Olygyddol y Cyngor Llyfrau.
- Telir cyflog yn fisol, ar y 25ain o bob mis. Bydd telerau’r swydd yn cynnwys gwyliau.
- Dyddiad cau: erbyn 3.00 pm, 10 Awst, 2022. Y ceisiadau i’w gwneud drwy lythyr cynnig, gan enwi dau ganolwr a CV i myrddin@carreg-gwalch.cymru.