Tanysgrifiad Hanes Byw

Mae Gwasg Carreg Gwalch yn cyhoeddi cylchgrawn hanes, 40 tudalen y rhifyn, A4, lliw llawn, bedair gwaith y flwyddyn o dymor yr Hydref ymlaen.
 
Bydd y rhifyn cyntaf yn cael ei gyhoeddi dydd Iau 28 Medi 2023, printiedig a digidol

Pris pob rhifyn: £4.95
 
Golygydd: Ifor ap Glyn 
Is-olygydd: Owain ap Myrddin
hanesbyw@carreg-gwalch.cymru
 
Mae'r cylchgrawn yn codi straeon o fyd hanes ac archaeoleg, iaith a chelfyddyd, adref a thramor gan daflu golau ar gefndir a gwreiddiau yr hyn sy’n digwydd o’n cwmpas heddiw.
 
Mae hanes yn apelio at bawb – ond gwyddom hefyd fod cymaint o fylchau yn ein gwybodaeth am hanes ein gwlad ein hunain. Mae’r gair gwreiddiol mewn Lladin wedi rhoi’r enw ar y pwnc academaidd inni ond hefyd dyna darddiad y geiriau ‘stori’ ac ‘ystyr’ yn y Gymraeg. Bydd y colofnau a’r erthyglau yn cyflwyno gwybodaeth newydd a chefndir arwyddocaol fydd yn ein helpu i ddeall ddoe, i esbonio heddiw ac i symud ymlaen at yfory.

Ar gael ym mhob siop lyfrau Gymraeg, drwy danysgrifio neu drwy archebu copi digidol.
 
Bydd 4 rhifyn o Hanes Byw, sef rhifynnau Medi 2023, Rhagfyr 2023, Mawrth 2024, Mehefin ar gael fel tanysgrifiad drwy’r post (£28 i Gymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr neu fel tanysgrifiad digidol drwy ebost (£20) o’r wythnos nesaf (yn dechrau Mehefin 5) ymlaen.