Teulu'r Gymwynas Olaf

Teulu'r Gymwynas Olaf

Disgrifiad | Description

  • ISBN: 9781845275242
  • Golygwyd gan Lyn Ebenezer
  • Cyhoeddi Mawrth 2017
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 90 tudalen
Yn Teulu\'r Gymwynas Olaf cawn aelodau o un o gwmnïau angladdol amlycaf Cymru yn agor y llenni ar arferion, dyletswyddau ac anghenion yr ymgymerwr. 54 llun du-a-gwyn.

Gwybodaeth Bellach:
\'Yng nghanol bywyd yr ydym mewn angau.\' Geiriau adnabyddus o\'r Llyfr Gweddi Cyffredin, geiriau y bydd pawb ohonom yn gyfarwydd â\'u clywed. Fe wnânt ein hatgoffa nad ydym fyth ymhell oddi wrth farwolaeth. Atgoffant ni nad yw bywyd a marwolaeth ond dwy ochr i\'r un geiniog. Mae trafod marwolaeth ac angladd yn dal yn rhyw fath o tabŵ, rhywbeth gwaharddedig. Ond yn Teulu\'r Gymwynas Olaf cawn aelodau o un o gwmnïau angladdol amlycaf Cymru yn agor y llenni ar arferion, dyletswyddau ac anghenion yr ymgymerwr. Mae hon yn gyfrol ddadlennol sydd heb fod yn dywyll. Yn wir cawn yma ac acw gryn hiwmor. Crynhoir y cyfan yn gryno gan yr ieuengaf yn y busnes, Rhys gyda\'r geiriau: \'Mae delio â\'r meirw yn ffordd o fyw i ni...\'

Pris | Price : £5.00

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.com

© Hawlfraint Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gan Delwedd