Theatr a Chymdeithas
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845274153
- Euros Lewis
- Cyhoeddi Gorffennaf 2015
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Gwybodaeth Bellach:
O’r theatrau ‘campws’ newydd a sefydlwyd yng Nghymru yn ystod y 1970au-80au, Theatr Felin-fach yn unig sydd wedi llwyddo i feithrin dolen dynn gyda’i chymuned a’i chenedl – gan feithrin nid yn unig cynulleidfa ond to ar ôl to o actorion, sgriptwyr, cynhyrchwyr a chwmniau. Mae’r Panto blynyddol yn sefydliad unigryw ynddo’i hun. Lledodd y theatr ei hesgyll i sawl maes pwysig arall megis Radio Ceredigion, ymgyrchoedd cymunedol (megis amddiffyn y ffatri gaws leol) a byd ffilm ac adloniant.
Ond camgymeriad fyddai diffinio Theatr Felin-fach fel ‘theatr gymunedol’. Mae hynny yn awgrymu mai mewnblyg a lleol ydi cymeriad y theatr. Er ei bod yn amlwg wedi ei lleoli mewn lle arbennig ac mewn cymdeithas arbennig, safle penodol i edrych allan ar y byd yw Theatr Felin-fach o’r dechrau.
Ni fyddai hyn wedi digwydd heb weledigaeth ac arweiniad arbennig – a’r gŵr a gyflwynodd y ddeubeth hynny i’r theatr yw awdur y gyfrol hon.
Mae’r gyfrol hon yn ddadansoddiad hanesyddol o gyd-destun y ddrama Gymraeg yng Ngheredigion yn arbennig, ond gan edrych ar y gymdeithas Gymraeg yn ei chyfanrwydd a hanes y theatr Gymraeg dros gyfnod helaeth o amser yn ogystal. Dyma wreiddiau Theatr Felin-fach. Drwy wneud hynny, cawn sylweddoli pwysigrwydd gwleidyddol y ddeinameg o ddrama o fewn ein cymdeithas arbennig ni.
Mae’n llyfr radical yn adrodd stori na chafodd ei hadrodd o’r blaen, gan geisio gwneud diwylliant penodol y Gymraeg yn weladwy ac yn ddealladwy.