Tomos Llygoden y Theatr a'r Nadolig Gorau Erioed

Tomos Llygoden y Theatr a'r Nadolig Gorau Erioed

Disgrifiad | Description

  • Tomos Llygoden y Theatr a'r Nadolig Gorau Erioed
  • ISBN: 9781845277154
  • Caryl Parry Jones, Craig Russell
  • Cyhoeddi Hydref 2019
  • Darluniwyd gan Leri Tecwyn
  • Fformat: Clawr Meddal, 149x136 mm, 66 tudalen
Dyma'r drydedd gyfrol yng nghyfres Tomos Llygoden y Theatr. Mae hi'n Nadolig yn y theatr, a phawb yn gadael am y gwyliau. Pawb, hynny yw, ond Noel y gofalwr. Mae Tomos yn poeni amdano ac yn cuddio ym mhoced ei siaced, ond pwy yw'r ffrind cyfarwydd mewn côt goch mae Noel yn cyfarfod ag ef ar y to? Gwybodaeth Bellach: Fel yn y ddwy gyfrol gyntaf am Tomos, mae’r gyfrol yn cynnwys gwaith celf trawiadol a lliwgar Leri Tecwyn wrth i’r awduron gyflwyno mwy o gymeriadau’r theatr a dilyn hynt a helyntion Tomos a’i griw. Bydd y stori’n apelio at blant hyd at saith oed, ac yn berffaith ar gyfer amser stori gyda mam a dad neu fel llyfr darllen unigol i ddarllenwyr mwy hyderus.

Pris | Price : £4.95

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.cymru

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

[ekm:poweredby]

Top

Cwsmeriaid | Customers