Tre Terfyn

  • Tre Terfyn
  • ISBN: 9781845277536
  • Aled Lewis Evans
  • Cyhoeddi Mehefin 2020
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 158 tudalen

Dyma lythyr caru o gyfrol; cân o fawl i ardal sydd yn ddwfn o dan groen yr awdur.

Tabl Cynnwys: ‘Tre Terfyn yn denu ac yn dallu bob yn ail; yn hudo ac arswydo bob tro yr edrychwn i lawr arni, yn croesawu a herio'r un pryd.’

Wrth ein harwain ar hyd strydoedd Wrecsam a’r Rhos – Tre Terfyn ei ddychymyg – mae Aled Lewis Evans yn tynnu ein sylw at y gwych a’r gwachul; at Dot Twna a Bessie yn hel clecs am hwn a’r llall, at Rum Lad yn trio’i lwc, at Bronwen Traffig Warden wrth ei gwaith, at foi’r Big Issue a thorfeydd y Cae Ras. Mae pob haen o gymdeithas yn gwau trwy’i gilydd yma, fel mewn sawl cymuned ddwyieithog arall ledled Cymru.

Bywgraffiad Awdur:Mae Aled Lewis Evans wedi byw yn Wrecsam ers 1971, wedi i'r teulu symud o’r Bermo. Dyma'i bumed gyfrol o ryddiaith greadigol i ddilyn Ga i ddarn o awyr las heddiw? (1991) Rhwng Dau Lanw Medi (1994) Y Caffi (2002) ac Aur yn y Gwallt (2004). Cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth ers 1989, a llyfrau o natur ffeithiola defosiynol. Mae'r gyfrol newydd hon, Tre Terfyn, yn waith y dyfarnodd Menna Baines Goron Eisteddfod Powys Dyffryn Banw iddo yn haf 2019. Yn 2019 hefyd enillodd Aled Dlws Cyfraniad Arbennig i Fyd Llyfrau gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru. Ardal Wrecsam yw cefndir y gwaith newydd, ond Wrecsam gwahanol iawn i fyd Y Caffi a’r straeon byrion cynharach.

Product Code: ISBN: 9781845277536