Trysorau Cudd Caernarfon
Disgrifiad | Description
- Trysorau Cudd Caernarfon
- ISBN: 9781845276577
- Angharad Price
- Darluniwyd gan Richard Outram
- Cyhoeddi Mehefin 2018
- Fformat: Clawr Caled, 140x216 mm
Bywgraffiad Awdur: Mae Angharad Price yn academydd a nofelydd sy’n byw yng Nghaernarfon gyda’i theulu. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2002 gydag O! Tyn y Gorchudd. Cafodd dwy gyfrol arall o’i gwaith, y nofel Caersaint a Ffarwél i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T.H. Parry-Williams, eu cynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011 a 2014. Yn dilyn llwyddiant ei drama Nansi, enillodd wobr Dramodydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Theatr Cymru y llynedd.
Rai blynyddoedd yn ôl, ysgrifennodd ddarnau byrion am Gaernarfon i Papur Dre, a datblygiad o’r colofnau hynny yw’r gyfrol hon.
Ffotograffydd llawrydd yw Richard Outram, yn arbenigo mewn tirluniau. Mae’n arwain cyrsiau ffotograffiaeth, ac wedi gweithio ledled y byd. Caernarfon yw ei gartref bellach er mai un o Fangor ydyw.