Y Gororau - Gwlad Rhwng y Gwledydd

Y Gororau - Gwlad Rhwng y Gwledydd

Disgrifiad | Description

  • Y Gororau - Gwlad Rhwng y Gwledydd
  • Myrddin ap Dafydd
  • ISBN: 9781845276546
  • Cyhoeddi Ebrill 2018
  • Fformat: Clawr Meddal, 150x155 mm, 208 tudalen
Mae mwy nag un wedi dyheu am arfordir dwyreiniol i Gymru, gan feddwl y byddai hynny wedi'i gwneud hi'n haws inni warchod ein diwylliant a rheoli ein tynged ein hunain ar hyd yr oesoedd. Yr hyn sydd gennym yw Clawdd Offa, aberoedd afonydd - a'r Mers.

Gwybodaeth Bellach:
Mae mwy nag un wedi dyheu am arfordir dwyreiniol i Gymru, gan feddwl y byddai hynny wedi’i gwneud hi’n haws inni warchod ein diwylliant a rheoli ein tynged ein hunain ar hyd yr oesoedd. Yr hyn sydd gennym yw Clawdd Offa, aberoedd afonydd – a’r Mers. Crwydro’r Gororau hynny wnaeth awdur y gyfrol hon i gasglu straeon a chofnodi hanesion – a rhyfeddu at gymeriad unigryw y broydd a’r trefi marchnad hynny. Clywsom yn ein gwersi hanes erioed mai sefydliadau gan y Rhufeiniaid, y Normaniaid a’r Ymerodraeth Brydeinig i ymosod ar Gymru yw llawer o’r adfeilion sydd i’w gweld yn ardal y ffin. Ond yr argraff sy’n aros yw bod Cymru hefyd wedi dylanwadu ar drefi, economi a chymeriad y Gororau. Mae hynny wedi cynorthwyo i greu gwlad rhwng gwledydd, sydd hyd heddiw yn datgelu cyfoeth o drysorau i’r sawl sy’n fodlon crwydro a chwilio amdanynt.

Pris | Price : £8.00

Nifer | Amount :

Gwasg Carreg Gwalch
12 Iard yr Orsaf
Llanrwst
Dyffryn Conwy
LL26 0EH
01492 642031
llanrwst@carreg-gwalch.com

© Hawlfraint 2018 - Gwasg Carreg Gwalch - Gwefan gyda Delwedd

Pay with VisaPay with MastercardPay with MaestroPay with JCB

Top

Cwsmeriaid | Customers