Y Gwaith a'i Bobl (Cyfres Llafar Gwlad 86)
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845275051
- Robin Band (Robin Williams)
- Cyhoeddi Chwefror 2015
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm
‘Nabod yw hanfod y llyfr hwn. O garreg fawr ddeg tunnell ar hugain hyd at gôt ffwr ei fam a llygod bach yr Hen Bedwar cawn ddarlun cynnes a chyforiog o hiwmor o’r Gwaith a’i bobl, a hynny mewn arddull dawel a chartrefol. O nabod yr awdur, dydi o ddim yn syndod fod y darlun at ei gilydd yn un cadarnhaol, a hynny heb fynd i ramanteiddio gwirion. Dydi o ddim yn syndod chwaith nad oes yr un o’r straeon digri’n stori ddifrïol. Ac mae o wedi llwyddo hefyd i gyfuno’r Gwaith a’r gweithwyr mewn modd sicr a chofiadwy, a hynny am nad gweithlu sydd yma, ond unigolion byw.’
– Alun Jones