Y Llinyn Aur - Rhiannon Evans
Disgrifiad | Description
- ISBN: 9781845272982
- Cyhoeddi Tachwedd 2010
- Golygwyd gan Lyn Ebenezer
- Fformat: Clawr Meddal, 196x128 mm, 80 tudalen
- Iaith: Cymraeg
Un o eiconau amlycaf yr hen Geltiaid oedd y Llinyn Diddiwedd. A dyna yw nodwedd Canolfan Grefftau ac Aur Rhiannon ar sgwâr Tregaron. Sefydlwyd y busnes gan Rhiannon Evans yn 1971 ar y 'Syniad Da' o sefydlu menter Gymraeg a fyddai'n cynnig crefftau Celtaidd gwreiddiol o'r safon uchaf.
Gwybodaeth Bellach:
Stori antur yw hon, antur un wraig a wrthododd ildio o flaen biwrocratiaeth a rhagfarn, eiddigedd a siniciaeth. Mae Canolfan Rhiannon bellach yn sefydliad rhyngwladol sy’n gwerthu hanner ei chynnyrch drwy archebion post neu dros y we. Mae’r darnau cain, yn cynnwys rhai mewn Aur Cymru, i’w canfod o’r Taleithiau Unedig i Awstralia, Japan a holl wledydd Ewrop.