This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Pibgorn Hud, Y

  • £8.50
  • £0.00
  • Pibgorn Hud, Y
  • ISBN: 9781845277413
  • Gareth Evans
  • Cyhoeddi Medi 2020
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 120 tudalen

Nofel antur wedi'i lleoli ym merw'r chweched ganrif ym Mhrydain yn y flwyddyn 552. Ynys ranedig, llawn tensiwn, sy'n bygwth ffrwydro fel llosgfynydd. Ynys sy'n simsanu ar ôl i'r pla sgubo drwy'r tir. Y cleddyf sy'n rheoli bellach, ac mae'n rhaid i bawb ddilyn y drefn. Yn enwedig plant. Yn enwedig merched. Pawb heblaw merch deuddeg oed o'r enw Ina.

Gwybodaeth Bellach:

Mae Inan wahanol. Am ei bod yn medru ymladd a thrin pastwn cystal ag unrhyw ryfelwr ifanc. Am ei bod yn medru dilyn trywydd prae cystal ag unrhyw heliwr. Am ei bod yn medru darllen ac ysgrifennu yn Lladin, cofiwch. Ac am mai hi ywr un or ychydig rai dethol a wellodd eto ar ôl dioddef or pla. Ond mae pris iw dalu. Dydi bod yn wahanol yn yr oes hon ddim yn beth hawdd. Mae pobl yn meddwl ei bod yn rhyfedd. Yn od. Yn ferch iw hosgoi.

Dawr amser i Ina adael ei bywyd tawel mewn hen villa Rufeining yng Ngwent. A daw bygythiad llawn mor angheuol âr pla iw herio. Bygythiad syn ei hyrddio ar daith beryglus. wrth ei hochr, Bleiddyn y ci - ei hunig ffrind. Ac yn ei sach, y pibgorn hud.