Nofel ffantasi gyffrous sy'n plethu dau fyd. Mae bywyd yn boen i Gethin, 13 oed, ym Mhontypridd. Mae e'n ffraeo gyda'i fam o hyd, does gan Caitlin ddim diddordeb ynddo, ac mae'r Tri Trist yn mynnu ei blagio. Diflas, diflas. Ond, yn dilyn parti yng nghartref Caitlin ar noswyl Calan Gaeaf, mae bywyd Gethin yn troi ben i waered, ac mae'n deffro mewn byd arall yn y flwyddyn 1713.
Dyma nofel antur berffaith ar gyfer Noson Galan Gaeaf! Ac maer paragraff cyntaf am y bwystfil yn trywanu ei frest, darnio cawell ei asennau ai rwygo ar agor yn agoriad ysgytwol syn sicr yn eich denu ymlaen i ddarllen. Ond stori am fachgen cyffredin a gawn yn y bôn, ai hanes yn yr ysgol yn ceisio delio âr bwlis, y ferch maen ei ffansïo, ai berthynas ai fam ai dad-cu. Mae Gethin yn greadur bach diniwed ar y dechrau, ac mae ei ddatblygiad fel cymeriad yn cynhesur galon.
Mae yma chwip o stori syn llawn dop o gymeriadau cofiadwy, digwyddiadau cyffrous ac anturus, portread real o deulu syn hapus ac yn ffraeo bob yn ail, cyfeillgarwch ffrindiau, partïon ac ymladd, rasys, athletau a rhedeg, asthma a niwmonia, ac, wrth gwrs, Emil y geco. Rhaid canmol yr awdur am bortreadur gwahaniaeth rhwng y gorffennol ar presennol mor llwyddiannus, fel y gwelir gyda Guto Nyth Brân a Mo Farah.
Mae hanes go iawn wedii weu yn gelfydd tu hwnt yn rhan or stori or wers ar hanes enwau lleoedd ir ffair orlawn, ac ir diwrnod aredig a hel calennig. Ond er dod â hanes mor fyw i ni, ni chawn ychwaith anghofio am ein treftadaeth arall chwedlau a chwedloniaeth, yn enwedig y sôn bod y ffin yna rhwng ysbrydion a ninnau, medden nhw, yn diflannu ar noson Galan Gaeaf!
Maer stori wedii gwreiddion gadarn yn ardal Pontypridd a Morgannwg, a braf iawn fyddai hi petai pob person ifanc y fro honno yn ei darllen i ymfalchïo yn eu cynefin. A champ fawr yr awdur yn fwy nad dim hefyd yw cyflwynor Wenhwyseg mor naturiol i rediad y stori, a bod y balchder ynddi hi a hanes yr ardal yn treiddio drwyr nofel. Y cais nawr, os caf, yw gofyn ir awdur meistrolgar hwn wneud yr un ffafr ag ardaloedd eraill Cymru!
Gwenllïan Dafydd