This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dyn Dweud Drefn yn Chwarae Pêl-Droed, Y

  • £4.95
  • £0.00
  • Dyn Dweud Drefn yn Chwarae Pêl-Droed, Y
  • Lleucu Lynch
  • ISBN: 9781845278243
  • Cyhoeddi: Medi 2021
  • Darluniwyd gan Gwen Millward
  • Addas i oed 0-7 neu Cyfnod Allweddol 1/2
  • Fformat: Clawr Meddal, 148x135 mm, 60 tudalen

Y drydedd gyfrol yn dilyn helyntion Y Dyn Dweud Drefn. Mae'r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru, ac mae'n benderfynol o sgorio'r gôl orau erioed. Ond tydi o'n cael fawr o hwyl arni ... Tybed all y Ci Bach helpu'r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd? 

Bywgraffiad Awdur:

Mae Lleucu Lynch yn enedigol o ardal Llangwm. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg yn 2017. Fel rhan oi chwrs dilynodd fodiwl Ysgrifennu Creadigol, ble lluniodd bortffolio o lenyddiaeth i blant, ac yn y portffolio hwnnw y gwelodd Y Dyn Dweud Drefn olau dydd am y tro cyntaf.
Ar hyn o bryd, maen gweithio fel Swyddog y Wasg gydag S4C yng Nghaernarfon.