This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Y Bws Hud ac O.M.B. (Cyfres Clec)

  • £4.99
  • £0.00
  • ISBN: 9781845275723
  • Eurgain Haf
  • Cyhoeddi Hydref 2016
  • Darluniwyd gan Hannah Doyle
  • Fformat: clawr meddal, 198x128mm, 48 tud

Y trydydd mewn cyfres wreiddiol o \'straeon denu darllen\'.  Wedi eu hanelu at blant 6+, dyma ddwy stori ffraeth a difyr sy\'n cynnwys sefyllfaoedd a chymeriadau lliwgar y gall plant heddiw uniaethu â nhw.  Lluniau du a gwyn hwyliog gan Hannah Doyle.

Y Bws Hud - Hen drwyn oedd Mabli Mai.  Doedd dim byd yn well ganddi na rhoi ei thrwyn smwt ym musned pawb.  Roedd hyn yn ei chael i bob math o helyntion.  Ond mae un daith ar y Bws Hud yn newid popeth...

O.M.B. - Cawr Clên a charedig oedd Orig Mwyn Benfawr.  Daeth tro ar fyd, a dysgodd O.M.B. pa mor anodd yw hi i fod yn gawr clên a charedig pan fo\'r \'Bobl Fach\' yn creu llanast o hyd!