This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Trysorau Cudd Caernarfon

  • £12.00
  • £0.00
  • Trysorau Cudd Caernarfon
  • ISBN: 9781845276577
  • Angharad Price
  • Darluniwyd gan Richard Outram
  • Cyhoeddi Mehefin 2018
  • Fformat: Clawr Caled, 140x216 mm
Dewch am dro i Gaernarfon... i'r Oval i glywed cân y Caneris i ben Twthill i ryfeddu at banorama mynydd a môr i Gei Porth yr Aur, noddfa'r ymylon. Tref ei phobol ydi Caernarfon Angharad Price - tref fywiog, liwgar, herfeiddiol ac yn yr ysgrifau celfydd hyn cewch gip ar y llecynnau bach yno sy'n werth eu trysori.

Bywgraffiad Awdur: Mae Angharad Price yn academydd a nofelydd syn byw yng Nghaernarfon gydai theulu. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn 2002 gydag O! Tyn y Gorchudd. Cafodd dwy gyfrol arall oi gwaith, y nofel Caersaint a Ffarwél i Freiburg: Crwydriadau Cynnar T.H. Parry-Williams, eu cynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2011 a 2014. Yn dilyn llwyddiant ei drama Nansi, enillodd wobr Dramodydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Theatr Cymru y llynedd.

Rai blynyddoedd yn ôl, ysgrifennodd ddarnau byrion am Gaernarfon i Papur Dre, a datblygiad or colofnau hynny ywr gyfrol hon.

Ffotograffydd llawrydd yw Richard Outram, yn arbenigo mewn tirluniau. Maen arwain cyrsiau ffotograffiaeth, ac wedi gweithio ledled y byd. Caernarfon yw ei gartref bellach er mai un o Fangor ydyw.