This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Sain Ffagan 75

  • £19.99
  • £0.00
  • Sain Ffagan 75
  • ISBN: 9781845279011
  • Cyhoeddi: Medi 2023
  • Golygwyd gan Ifor ap Glyn
  • Darluniwyd gan Richard Outram
  • Fformat: Clawr Caled, 200x240 mm, 144 tudalen

Mae Amgueddfa Werin Cymru yn 75 oed yn 2023, ac i ddathlu'r achlysur, comisiynir lluniau gan y ffotograffydd Richard Outram ac 20 o gerddi newydd i ddathlu'r adeiladau sydd wedi cael eu hail-godi yn Sain Ffagan y siopau, y cartrefi a'r llefydd gwaith sydd wedi cael eu symud yno o bedwar ban ein gwlad.

Bywgraffiad Awdur:

Ffotograffydd llawrydd yw Richard Outram, sy'n arwain cyrsiau ffotograffiaeth ac wedi gweithio ledled y byd. Dyma'i bedwaredd gyfrol i Wasg Carreg Gwalch ers 'Trysorau Cudd Caernarfon' hefo Angharad Price yn 2018. Mae'r frodor o Fangor ond wedi hen gartrefu yng Nghaernarfon. Mae Ifor ap Glyn wedi cynhyrchu sawl cyfres deledu a radio yn ymwneud â hanes, gan gynnwys 'Evan Jones ar Cherokee', 'Hedd Wyn' a 'Llefydd Sanctaidd'. Ei gyfrol ddiweddaraf yw 'Anwyl Fam' - pererindod drwy'r Rhyfel Mawr, ac ef yw golygydd y cylchgrawn 'Hanes Byw'.

Gwybodaeth Bellach:

Bydd pennod ar gyfer pob un o'r ugain adeilad a ddewiswyd ar gyfer y llyfr, a cherdd yn ymateb i bob adeilad wedi'i hysgrifennu gan fardd sydd â chysylltiad agos â'r ardal lle safai'r adeilad yn wreiddiol.

Bydd Richard Outram (yn dilyn ei lwyddiant gyda Trysorau Cudd Caernarfon, Enaid Eryri ac Aberteifi) unwaith eto'n rhoi gwrthbwynt i waith y beirdd gyda'i luniau. Bydd yn defnyddio'i ddawn i ganfod onglau newydd ar destunau cyfarwydd, wrth ymateb i adeiladau Sain Ffagan, ac hefyd weithiau, i'r llefydd lle safent gynt.

Golygir y cyfan gan Ifor ap Glyn, a bydd yn ysgrifennu pennod ragarweiniol ar y cyd hefo Dafydd Wiliam, Prif Guradur yr Adeiladau Hanesyddol yn Sain Ffagan. Bydd y bennod hon yn cyflwyno peth o hanes yr amgueddfa, y broses o gael yr adeiladau, a sut y mae'r polisi wedi newid dros y blynyddoedd. Er mai adeiladau'n perthyn i'r gorffennol gwledig a ddaeth yma gynta, o'r 1980au ymlaen aed ati i gyfleu gorffennol ein cymunedau diwydiannol yn ogystal.

Dyma'r beirdd fydd yn ymateb i'r adeiladau:

Emyr Lewis Pre-fab, Gabalfa

Mererid Hopwood Gweithdy'r Clocsiwr, Tyddewi

Dyfan Lewis Kennixton, Llangennith

Clare Potter Institiwt y Gweithwyr, Oakdale

Arwyn Groe Abernodwydd

Elinor Gwynn Llainfadyn, Rhostryfan

Aneirin Karadog Twlc Rhydfelen

Morgan Owen Rhesdai Rhyd y car

Elinor Wyn Reynolds Swyddfa Bost Blaenwaun Gwenallt

Llwyd Ifan Cilewent

Menna Elfyn Nantwallter, Taliaris

Idris Reynolds Melin Bompren, Caerwedros

Aled Lewis Evans Ysgubor Stryd Lydan

Eirug Salisbury Tolldy Penparce

Annes Glyn Llys Llywelyn, (Niwbwrch)

Philippa Gibson Ysgol Maestir, Llanwnnen

Nici Beech Talwrn, Dinbych

Tudur Hallam Eglwys Sant Teilo, Pontarddulais

Tegwen Bruce-Deans a Rhys Iorwerth