This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Gwres o'r Gorllewin

  • £7.95
  • £0.00
  • Gwres o'r Gorllewin
  • ISBN: 9781845278335
  • Ifor Wyn Williams
  • Cyhoeddi: Tachwedd 2021
  • Addas i oed 12+ neu Cyfnod Allweddol 3/4
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 252 tudalen

Dychmygwch yr olygfa: Mam a'i mab ifanc yn sefyll ar bentir uchel ger Dulyn yn Iwerddon ac mae hi'n pwyntio at wlad fynyddig ar y gorwel. 'Dacw Wynedd,' meddai wrth ei mab. 'Dyna deyrnas Cynan, dy dad. Bu'n rhaid iddo ffoi a gadael ond rhyw ddiwrnod byddi di'n dychwelyd yno a thi fydd Brenin Gwynedd.'

Gwybodaeth Bellach:

Ar y freuddwyd honno y magwyd Gruffudd ap Cynan. Daeth y freuddwyd yn wir croesodd y môr i Gymru gyda byddin o Ddulyn a brwydrodd i adennill ei deyrnas. Ond nid oedd y daith honno yn un esmwyth rhwng wynebu gelynion o Gymru a thwyll a mileindrar Normaniaid, cafodd ei brofi ir eithaf. Eto, roedd fflam eiriasboeth yn llenwi ei ysbryd gyda gwres or gorllewin ...

Enillodd Gwres or Gorllewin y Fedal Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1971. nofel Gymraeg arbennig iawn y teimlad a geir yw fod yr awdur wedi byw carchariad maith ac arteithiol Gruffudd gydag ef ... Maer gymeriadaeth ar myfyrion gampus, ar portread o Gruffudd ap Cynan yn orchestwaith. Islwyn Ffowc Elis