This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Smyglwyr Cymru

  • £6.75
  • £0.00
  • ISBN: 9781845271244
  • Awdur: Twm Elias, Dafydd Meirion
  • Cyhoeddi Mai 2007
  • Fformat: Clawr Meddal, 182x124 mm, 148 tudalen

Hanesion am smyglwyr yng Nghymru. Mae'r gyfrol yn gofyn pwy oedd y smyglwyr o ddifri a sut a pham yr oeddent mor barod i beryglu eu rhyddid a'u bywydau yn glanio nwyddau di-dreth? Pwy oedd y tu cefn iddynt? Pa nwyddau oedd yn cael eu smyglo? Pwy oedd eu cwsmeriaid a pha lwyddiant a gawsant yn erbyn swyddogion y tollau oedd yn benderfynol o'u dal?

Adolygiad Gwales
Pwy ohonom sydd heb fod yn euog o smyglo drwy geisio cuddio rhyw gelc bach di-werth neu’i gilydd drwy’r tollau mewn maes awyr neu borthladd? Pwy ohonom na cheisiodd dwyllo’r Ingland Refeniw, chwedl Ifas y Tryc? Amaturiaid ydyn ni, wrth gwrs. Mae Smyglwyr Cymru, ar y llaw arall, yn olrhain hanes smyglwyr proffesiynol.

Trist yw gweld enw Dafydd Meirion ar y clawr, ag yntau wedi’n gadael. Ond gadawodd waddol o lenyddiaeth boblogaidd ar fodau mor amrywiol â chowbois a môr-ladron Cymru. A phwy’n well i barhau â'r gwaith na’i gyd-awdur, y byrlymog Twm Elias sy’n gyforiog o wybodaeth ac o syniadau?

Mae’r gyfrol yn llenwi bwlch yn ein gwybodaeth. Er i ni glywed am Fadam Wen a Siôn Cwilt, diolch i William Owen a T. Llew Jones, mae’r gyfrol hon yn agor ein llygaid i eraill yn y maes, yn smyglwyr ac yn swyddogion tollau, o Deulu Lucas o Sir Forgannwg i Wrachod Llanddona ar y naill law, a William Gambold a Morrisiaid Môn ar y llaw arall.

Mae’r gyfrol hefyd yn rhychwantu cyfnodau a lleoliadau eang, o’r 17eg ganrif i’n cyfnod ni, ac o gilfachau arfordirol sy’n ymestyn dros 600 o filltiroedd ein harfordir, o Ynys Wair i ben draw Ynys Môn.

Diddorol yw canfod dwy oes aur yn hanes smyglo, sef y cyfnod clasurol o’r 17eg ganrif hyd y 19eg ganrif a’r cyfnod modern, o ganol y ganrif ddiwethaf hyd heddiw. Fel popeth arall, newidiodd natur smyglo’n llwyr. Roedd i’r oes aur gyntaf ddelwedd ramantus gyda hen smyglwyr ‘yn glanio nwyddau yn y dirgel i ddwylo croesawgar cymuned a gawsai ei gormesu gan dollau anghyfiawn y Goron’. Heddiw, ceir patrwm newydd mwy sinistr, ‘sef smyglo i gyflenwi’r galw cynyddol am nwyddau lawer llai derbyniol megis cyffuriau meddal a chaled, arfau, pornograffi, mewnfudwyr anghyfreithlon ac anifeiliaid neu adar prin.’

Hoffaf yn fawr ddiwyg y gyfrol, yn arbennig y cameos bach darluniadol sy’n cychwyn ac yn cloi pob pennod. Mae llun y clawr hefyd yn ddeniadol gyda golygfa yn edrych allan o geg ogof yn creu rhyw fath o siâp marc cwestiwn, sy’n addas iawn ar gyfer y stori sy’n dilyn.

Fel y dywed y broliant, dyma’r tro cyntaf i stori smyglwyr Cymru gael ei chyflwyno yn ei chrynswth, ac mae’n stori eithriadol o gyffrous sy’n taflu goleuni newydd, rhyfeddol ar agwedd o’n hanes a gafodd ei esgeuluso cyn hyn.
Lyn Ebenezer

Gwybodaeth Bellach:
Rydym yn hen gyfarwydd â'r hanes am smyglwyr yn y ddeunawfed ganrif yn dadlwytho brandi, tybaco a halen yn anghyfreithlon liw nos mewn cilfachau diarffordd ar hyd arfordir Cymru. Yn wir, cawsom ein cyfareddu pan yn blant gan straeon am Siôn Cwilt yn nofelau T. Llew Jones a Madam Wen yn nofel enwog W. D. Owen.
Ond pwy oedd y smyglwyr o ddifri a sut a pham yr oeddent mor barod i beryglu eu rhyddid a'u bywydau yn glanio nwyddau di-dreth? Pwy oedd y tu cefn iddynt? Pa nwyddau oedd yn cael eu smyglo? Pwy oedd eu cwsmeriaid a pha lwyddiant a gawsant yn erbyn swyddogion y tollau oedd yn benderfynol o'u dal? Do, bu aml i frwydr waedlyd rhwng y smyglwyr a'r awdurdodau – fel y cawn weld yn y gyfrol hon.
Byddwn yn ymdrin â'r ddwy 'Oes Aur' yn hanes smyglo, sef y cyfnod 'clasurol' o ddiwedd yr 17g hyd ganol y 19g ac yna'r cyfnod modern o ganol yr 20g hyd heddiw pan ddaeth yn ffasiwn i smyglo cyffuriau, arfau, dîsl, dillad 'designer' a phobol.
Dyma'r tro cyntaf i stori smyglwyr Cymru gael ei chyflwyno yn ei chrynswth – ac mae'n stori eithriadol o gyffrous sy'n taflu goleuni newydd, rhyfeddol, ar agwedd o'n hanes a gafodd ei esgeuluso hyd yn hyn.