This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Tro Drwy'r Tymhorau

  • £8.50
  • £0.00
  • Awdur: Twm Elias
  • Fformat: Clawr meddal
  • Dyddiad Cyhoeddi: Hydref 2007

Almanac am wyliau a dathliadau'r flwyddyn.

Mae’r gyfrol hon yn olrhain y flwyddyn o fis i fis ac yn disgrifio’r dathliadau o dymor i dymor - a hynny yn arddull hamddenol a gogleisiol Twm Elias ei hun.

Mae’r llais a ddifyrodd wrandawyr ‘Galwad Cynnar’ ar hyd y blynyddoedd i’w glywed yn eglur rhwng y cloriau hyn - yn arbennig felly lle bo’n tynnu sylw at ac yn dychan pwysigrwydd rhai o’n dathliadau seciwlar ni, a ystyriwn mor fodern a chyfoes - ond sydd mewn gwirionedd mor hen â phechod!

Ceir llu o wybodaeth am wyliau’r flwyddyn:

  • Pam y cynhelir arwerthiannau dillad a phethau tñ ddechrau Ionawr;
  • Pam ein bod yn sôn am ‘Sul y Pys’;
  • Pam fod y flwyddyn ariannol yn dechrau ym mis Ebrill;
  • Pa ddefnydd sydd i ddãr glaw Mai mewn car modur;
  • Beth yw gwreiddiau ‘byw tali’;
  • Pam y ceisiwyd gwahardd pwdinau Nadolig;
  • a llawer, llawer mwy!

Gwybodaeth am yr awdur:

Mae Twm Elias yn gweithio ym Mhlas Tan y Bwlch fel darlithydd. Clywir ei lais yn aml ar Radio Cymru, yn arbennig ei gyfraniadau i’r rhaglen ‘Galwad Cynnar’ ar foreau Sadwrn. Cyhoeddodd nifer o gyfrolau ar lên gwerin ac mae’n olygydd y cylchgrawn Fferm a Thyddyn.