Adolygiad o nofel Catrin Gerallt, Y Ferch ar y Cei, gan Elin Llwyd Morgan.
Dyma adolygiad o nofel Catrin Gerallt, Y Ferch ar y Cei, gan Elin Llwyd Morgan.
O ystyried teitl atmosfferig nofel gyntaf y newyddiadurwraig Catrin Gerallt a’r ffaith iddi gael ei disgrifio fel ‘nofel dditectif’, roeddwn i wedi disgwyl nofel ddirgelwch dywyll a difrifol.
Tipyn o syndod felly oedd gweld yr ansoddeiriau ‘Hwyliog, doniol, crefftus, secsi...’ ar flyrb clawr blaen y clobyn o gyfrol hon sy’n fwy tebyg o ran ei maint i thrillers swmpus nag i nofelau ysgafn.
A rhaid cyfaddef yn y dechrau i mi feddwl sut oedd y stori â naws chick-lit (llen-gen?) hon am Bethan Morgan - gohebydd teledu sy’n jyglo’r argyfyngau bywyd arferol - yn mynd i gynnal fy niddordeb am bron i 400 tudalen.
Ond wrth i’r nofel fynd rhagddi, daw’n fwy gafaelgar, gyda chymeriadau byw a phlot sy’n ymwneud â chynllunwyr llwgr â’u bryd ar wneud eu ffortiwn ar draul trigolion ardal y Cei.
Gyda’i thrwyn am stori a dedlein rhaglen materion cyfoes nesaf Y Byd a’r Betws yn nesáu, mae Bethan yn mynd ati i durio, wrth ddelio ar yr un pryd â chwalfa ei phriodas yn ogystal â’i ffwlcyn o fòs, Selwyn, sy’n rhwystro yn hytrach na hwyluso ei hymdrechion i fynd at galon y gwir.
Er bod y nofel yn cael ei hadrodd am yn ail o safbwynt Bethan a’i merch hynaf Elin, Bethan yn bendant yw’r prif gymeriad. Dynes ganol oed ddiwyd, hoffus a byrbwyll ar adegau, sy’n taflu ei hun i’w gwaith ac i freichiau Declan, perchennog tafarn y Cei lle mae Elin yn gweithio, er i’w merch ei rhybuddio am y swynwr o dras Gwyddelig.
Ymhlith y cymeriadau brith eraill mae Sid Jenkins, y crwc o gynghorydd seimllyd; Brenda, ysgrifenyddes y cwmni cynhyrchu sy’n ‘ymddwyn fel tasai’n gwarchod Mantell Aur yr Wyddgrug, yn hytrach na chwpwrdd yn llawn papur’; a Sam, y gweithiwr rhyw sy’n rhoi ei phen ar y bloc er mwyn helpu Bethan gyda’r exposé a allai achub y dydd (a hwyrach mai hi hefyd sy’n ymdebygu fwyaf i’r ferch yng ngherdd enwog T.H.Parry Williams).
Cymeriad arall yn y nofel yw Caerdydd ei hun, dinas sy’n amlwg yn gyfarwydd ac yn agos iawn at galon yr awdur, a’r disgrifiadau ohoni yw un o gryfderau’r nofel.
O ran gwendidau, byddai gwaith golygu mwy trylwyr wedi talu ar ei ganfed. Mae tueddiad i fod yn ailadroddus ar brydiau, ynghyd ag ambell anghysondeb, fel pan mae Gareth gŵr Bethan yn mynd i dafarn y Cei ar y noson pan ddywedwyd ei fod yn edrych ar ôl eu merch ieuengaf.
Roedd y ‘Dylyfodd gên’ chwithig yn merwino ’nghlustiau hefyd, ynghyd â dywediadau fel ‘y diarhebol yn hitio’r ffan’, sy’n colli eu doniolwch o gael eu gorddefnyddio.
Unwaith i’r nofel gydio, fodd bynnag, cefais drafferth ei rhoi i lawr, yn enwedig wrth iddi garlamu tuag at ei diweddglo cyffrous. Mae’n darllen yn rhwydd a ffraeth, a cheir ynddi hefyd ddychan crafog a bwrw trem ar isfyd tywyll y ddinas.
Ceir awgrym ar y clawr cefn fod mwy o anturiaethau Bethan Morgan i ddod. Os felly, edrychaf ymlaen at eu darllen.