This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Adolygiad o Dros Ysgwydd y Blynyddoedd

Adolygiad o Dros Ysgwydd y Blynyddoedd

 

Dyma adolygiad o Dros Ysgwydd y Blynyddoedd, Hunangofiant Gwilym Roberts gan Alun Jones

Hogyn y ddinas yw Gwilym, ac yn fwyaf arbennig hogyn Rhiwbeina. Ie, hogyn ac nid crwt a phe baech yn codi sgwrs gydag e, fyddai hi ddim yn hir cyn iddo sôn am bentref Penrhyndeudraeth yn yr hen sir Feirionnydd, lle ganwyd ac y magwyd ei dad. Yno, y byddai Gwilym a’i frawd hynaf yn mynd ar wyliau yn yr haf i rymuso eu Cymraeg. Merch fferm o Nantperis oedd ei fam a’i chartref a’r teulu oedd popeth iddi hi. Yn wir, hi fyddai’n sodro’r brodyr i ymarfer eu piano. Gan mai dim ond un wers yr wythnos o Gymraeg a gâi’r bechgyn yn yr Ysgol Gynradd, ei fam, y gwyliau dros yr haf ym Mhenrhyndeudraeth a’r capel  a sicrhaodd fod ganddynt afael gref ar y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig. Y sylfaeni cadarn hyn a sbardunodd  Gwilym i gyfrannu cymaint dros yr iaith fel oedolyn.

Yn y gyfrol hynod o ddarllenadwy hon cawn gipolwg  ar ei fywyd yn ystod ei ddyddiau yn Ysgol Gynradd Rhiwbeina ac yna yn Ysgol Ramadeg Penarth. Yn ddeunaw oed bu’n rhaid iddo wneud ei wasanaeth yn y fyddin ac wedyn aeth i Goleg y Drindod yng Nghaerfyrddin a chymhwyso i fod yn athro Cymraeg mewn ysgolion Cynradd.

Hanfod y gyfrol wrth gwrs yw darlunio ei gyfraniad dros hyrwyddo’r Gymraeg . Gwnaeth hynny’n gydwybodol fel athro yn Ysgol Gynradd Trelai – ardal ddifreintiedig yng Nghaerdydd. Aeth â disgyblion yr ysgol ar gyrsiau i ddysgu Cymraeg am wythnos yng ngwersyll Yr Urdd yn Llangrannog, cyrsiau a luniwyd ar y cyd gan athrawon i ddisgyblion Cynradd ac Uwchradd. Yr hyn na ddywed Gwilym yn ei gyfrol yw y byddai’n neilltuo rhyw bum wythnos bob blwyddyn yn wirfoddol i ddysgu Cymraeg yn y gwersylloedd am flynyddoedd.

Er mai hen lanc yw Gwilym, gwelwyd yr un ymroddiad ganddo wrth iddo sefydlu Cylch Meithrin Cymraeg yn Rhiwbeina. Oherwydd ei frwdfrydedd, nid yw’n rhyfeddod iddo gael ei benodi’n gadeirydd cenedlaethol y Mudiad Meithrin. Gwelwyd yr un brwdfrydedd ganddo yn ei ymwneud ag Aelwyd yr Urdd yng Nghaerdydd – côr yr Aelwyd, sefydlu wlpan i ddysgu Cymraeg ac yna am flynyddoedd cynnal dosbarthiadau nos i ddysgu Cymraeg i’r bobl ifanc di-Gymraeg gab sbarduno athrawon eraill i ymuno ag ef. Gwelwyd yr un ynni wedi iddo ymddeol fel athro wrth iddo gynnig ei wasanaeth i ddysgu Cymraeg yn y Wladfa a gwnaeth hynny am flynyddoedd. Derbyniodd anrhydeddau lu am ei holl ymroddiad i’r Gymraeg a chewch ddarllen am yr anrhydeddau hynny yn y gyfrol.

Wrth ddarllen y gyfrol hon, byddwch yn rhyfeddu at ei ysfa i drosglwyddo’r Gymraeg i eraill. Mae’r gyfrol yn gofnod sy’n darlunio sut y gwnaeth Gwilym ymateb i araith fawr Saunders Lewis Tynged yr Iaith, wrth iddo fwrw ati i ddysgu Cymraeg ac ehangu ei defnydd.