This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Fferm Cwm Cawdel: Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel 2

  • £6.00
  • £0.00
  • Fferm Cwm Cawdel: Gwyliau Gwirion Fferm Cwm Cawdel 2
  • ISBN: 9781845278229
  • Gwennan Evans
  • Cyhoeddi: Medi 2021
  • Darluniwyd gan LLeucu Gwenllian
  • Fformat: Clawr Meddal, 190x135 mm, 40 tudalen

Ymunwch efo Ffion a Fflei a'r gwartheg i gyd wrth iddyn nhw fentro ar wyliau arall yng Nghymru.

Bywgraffiad Awdur:

Daw GWENNAN EVANS o Ddyffryn Cothi'n wreiddiol ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda'i g?r a'i dau fab. Mae ganddi ddoethuriaeth mewn Cymraeg o Brifysgol Abertawe ac fe ddilynodd drywydd Ysgrifennu Creadigol ar gyfer ei hymchwil yno. Enillodd radd Meistr yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd a gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Bangor. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Bore Da, yn 2012 a nofel ddoniol i blant, Iârgyfwng, yn 2017. Cyhoeddodd stori fer i'r arddegau yn y gyfrol Seren Wib a bydd ei Stori Tic Toc gyntaf i blant bach i'w chlywed ar Radio Cymru yn Hydref 2019. Ym mis Chwefror 2019, treuliodd wythnos yn Nh? Newydd ar gwrs dan nawdd Cyngor Llyfrau Cymru i feithrin awduron ar gyfer llyfrau llun a gair i blant 3-7 oed dan arweiniad Manon Steffan Ros a Jac Jones. Mae Gwennan hefyd yn barddoni ac wedi ysgrifennu nifer o gerddi i blant ar gyfer sawl Stomp Plant.