Storis Geraint Iwan Yn Seiliedig Ar Ddychymyg Geraint Iwan gan Geraint Iwan yw teitl y gyfrol hon, sy’n awgrymu fod yr awdur yn barod iawn i hawlio perchnogaeth o’r storis, waeth beth fydd ymateb y darllenwyr.
Fel mae’n digwydd, mae Geraint Iwan yn iawn i fod yn ffyddiog oherwydd mae’n awdur tal...
This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
Llwybr i Ben Draw’r Byd - Cerdded y Camino Francés
Ifan Huw Dafydd
Mae dau fath o gyfrol sy’n heriol i’w hadolygu, i minnau beth bynnag – rhai gwachul a rhai gwych. Y math cyntaf am nad wyf yn hoffi bod yn gas – a bod pawb yn y byd sgwennwyr Cymraeg yn nabod ei gilydd rywsut! A’r ail fath, wel, m...
Adolygiad Elin Llwyd Morgan i bapur bro Yr Ysgub
Yn wahanol i’w thair nofel flaenorol, sydd wedi bod yn rhannol hunangofiannol neu’n seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol, nofel ddychmygus ag iddi elfennau o’r goruwchnaturiol ydi cyfrol ddiweddaraf Sian Rees.
Er, nid dyna oedd ei bwriad gwre...
Fyddech chi byth yn disgwyl cyfrol sy’n cynnwys pethau mor amrywiol â chreadur chwedlonol, protest, ras feiciau, gwrach, prif weithredwr, a’r gallu i siarad ag anifeiliaid. Ond dyna’n union a geir rhwng cloriau’r llyfr hwn, ac mae’r cyfan yn cael ei blethu yn gelfydd o fewn stori antur gyflym sy’...
Mae Madog yn y Parti yn llyfr yn y gyfres ‘Amdani’, llyfr i oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Awdur y llyfr yw Branwen Glyn ac mae hi’n diwtor Cymraeg yng Nghaernarfon.
Mae’r llyfr yn dda iawn i ddysgwyr ar ddiwedd lefel Mynediad. Mae’r llyfr yn dweud stori Madog (ci bach) pan mae e’n mynd i bar...
Os ydi’ch tŷ chi unrhyw beth fel ein tŷ ni, mae hi’n gallu bod yn dipyn o dynfa weithiau rhwng y teledu, yr iPad, a’r dudalen! Ond rydan ni’n gwneud yn siŵr bod digon o amser o hyd i ymgolli mewn llyfr da. Dyna braf felly oedd cael dod o hyd i lyfr sy’n trafod yr union dynfa honno rhwng y sgrinia...