This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Anturiaethau'r Brenin Arthur

  • £7.99

Selling fast  - 10 left

  • Anturiaethau'r Brenin Arthur
  • ISBN: 9781845279462
  • Rebecca Thomas
  • Cyhoeddi: Ebrill 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 123 tudalen

Anturiaethau’r Brenin Arthur yw trydydd nofel Rebecca Thomas; stori llawn antur sy’n cyfuno elfennau o hanes ond yn pigo’n cydwybod am faterion amgylcheddol hefyd. Llwydda criw o blant i ddeffro’r Brenin Arthur er mwyn ceisio ei gymorth i dynnu sylw arweinwyr y byd at yr argyfynwg hinswadd. Dim ond y nhw sy’n deall beth yw eu bwriad, a chawn weld eu nod yn cael ei wireddu wrth iddynt deithio o amgylch ardal Bannau Brycheiniog yng nghwmni eu harwr. Ysgrifennwyd y nofel yn ystod cyfnod Rebecca fel Awdur Preswyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, preswyliad i weithio ar brosiect creadigol yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur. Fel rhan o broses ysgrifennu’r nofel, bu Rebecca yn cynnal gweithai gyda disgyblion ysgolion lleol.

Dyma ddywedodd Rebecca Thomas am y ffordd y daeth y llyfr i olau dydd: ‘Mae wedi bod yn brofiad arbennig iawn ysgrifennu’r nofel hon. Roeddwn i am fynd ati i ysgrifennu nofel oedd yn cyfuno chwedlau’r gorffennol gyda themâu cyfoes, gan ddefnyddio stori’r Brenin Arthur i ymateb i heriau’r presennol. Wnes i benderfynu ar fframwaith ar gyfer y nofel – byddai’r Brenin Arthur yn deffro o’i drwmgwsg yng Nghraig y Ddinas ac yn crwydro’r Parc Cenedlaethol, gan ryfeddu wrth weld gymaint y mae’r byd wedi newid yn ystod yr amser y bu’n cysgu. Ond roeddwn i hefyd am gynnwys persbectifau a syniadau pobl ifanc yr ardal. Ac felly yn ystod Hydref a Gaeaf 2022 wnes i redeg cyfres o weithdai gyda disgyblion yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, Ysgol Ystalyfera, ac Ysgol Calon Cymru. Roedd yn bleser trafod cymeriadau posib gyda’r disgyblion a gwrando arnynt yn rhestru’r holl bethau a fyddai’n syfrdanu Arthur petai’n deffro yn ein byd ni heddiw. Ond o gwmpas yr argyfwng hinsawdd y cafwyd y drafodaeth fwyaf brwd. Roedd yn gwbl amlwg i mi fy mod yng nghwmni carfan o bobl ifanc oedd yn hynod o wybodus ar y pwnc ac yn argyhoeddedig bod angen gweithredu i sicrhau newid. Y brwdfrydedd hyn a’r awydd i weithredu wnaeth ysbrydoli cymeriadau Osian, Lisa, Kamala, Gwen, Joel ac Ifan. Y Brenin Arthur oedd prif gymeriad y nofel cyn imi ymweld â’r ysgolion. Ond ar ôl treulio ychydig o oriau yn y dosbarthiadau, doedd dim amheuaeth mai’r chwech disgybl fyddai wrth y llyw.’

Lluniwyd clawr arbennig i’r llyfr gan Lleucu Gwenllian yn dangos y criw yn teithio a’r offer arbennig oedd ganddynt ar y daith.

Bywgraffiad Awdur:

Daw Rebecca Thomas o Gaerdydd yn wreiddiol. Wedi treulio cyfnodau yn astudio a gweithio ym Mhrifysgolion Caergrawnt a Bangor, mae bellach yn ddarlithydd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, Prifysgol Caerdydd. Hanes, diwylliant a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol yw ei harbenigedd. Mae'n awdur dwy nofel hanesyddol – Dan Gysgod y Frenhines (2022) a Y Castell ar y Dŵr (2023)