This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Byw Iaith - Taith i Fyd y Llydaweg

  • £8.50
  • £0.00
  • Byw Iaith - Taith i Fyd y Llydaweg
  • ISBN: 9781845277024
  • Aneirin Karadog
  • Cyhoeddi Hydref 2019
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 242 tudalen
Dyma hanes blwyddyn y Prifardd Aneirin Karadog a'i deulu yn anturio i fyw bywyd fel Llydawyr go iawn, yn taflu eu hunain mewn i fywyd y gymuned, y byd gwaith, addysg Lydaweg ac arferion beunyddiol yng ngogledd-orllewin Llydaw.

Gwybodaeth Bellach:
Ydych chi erioed wedi bod ar wyliau i Lydaw ond heb glywed gair o Lydaweg yn cael ei siarad? Ydych chi erioed wedi rhyfeddu fod yna iaith sydd mor debyg i'r Gymraeg, ac eto mor annealladwy wrth ei darllen neu ei chlywed yn cael ei siarad?

Dyma hanes blwyddyn y Prifardd Aneirin Karadog a'i deulu yn anturio i fyw bywyd fel Llydawyr go iawn, yn taflu eu hunain mewn i fywyd y gymuned, y byd gwaith, addysg Lydaweg ac arferion beunyddiol yng ngogledd-orllewin Llydaw. Yn y gyfrol hon, bydd Aneirin yn cyfleu beth yw byw bywyd drwy gyfrwng y Llydaweg, a hynny ar ffurf dyddiadur o fywyd y teulu yn Llydaw, cerddi am ei brofiadau ac ysgrifau yn trafod gwahanol agweddau ar chwaer-iaith y Gymraeg.