This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Ych! Maen Nhw'n Neis (Llyfrau Lloerig)

  • £3.75
  • £0.00
  • ISBN: 9780863814914
  • Cyhoeddi Mehefin 2000
  • Golygwyd gan Myrddin ap Dafydd
  • Darluniwyd gan Siôn Morris
  • Addas i oed 7-9+ neu Cyfnod Allweddol 2
  • Fformat: Clawr Meddal, 72 tudalen

Cerddi am bethau digri ac am bethau dychrynllyd sy'n gyrru ias o arswyd i lawr yr asgwrn cefn, gan ddau ar bymtheg o feirdd cyfo es. Darluniau du-a-gwyn ar bob tudalen. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1998.

Adolygiad Gwales
Mae ailargraffu llyfr wedi mynd yn ddigwyddiad rhy brin erbyn heddiw, felly mae’n beth braf gweld y llyfr barddoniaeth hwn i blant yn gweld golau dydd am yr eildro. Mae’r gyfrol Ych, maen nhw’n neis (gol. Myrddin ap Dafydd) yn perthyn i’r gyfres ‘Llyfrau Lloerig’, ac mae’n llawn dop o gerddi sydd wedi swyno plant cynradd ac uwchradd. Y gyfrinach ydi fod y cerddi a’r beirdd wedi mynd i fyd y plant, ond heb siarad yn isel efo nhw.

Mynd â ni i fyd y ‘llysnafeddog a’r llyffantaidd’ y mae’r llyfr hwn, a’r hyn sy’n cyfrannu at ei lwyddiant ydi’r amrywiaeth sydd ynddo. Mae yma gerddi-taro-deuddeg sy’n llawn hwyl a nonsens geiriol, a cherddi sy’n farddoniaeth ac yn ymestyn dychymyg y plant.

Mae amrywiaeth hefyd o ran hyd y cerddi – rhai i’w darllen mewn eiliad, a rhai i gnoi cil arnyn nhw.

Tudur Dylan Jones