This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Rhwng y Craciau

  • £7.50
  • £0.00
  • ISBN: 9781845275297
  • Penri Roberts
  • Cyhoeddi Gorffennaf 2015
  • Darluniwyd gan Christine Mills
  • Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Mae\'r cerddi hyn wedi\'u gwreiddio\'n ddwfn yn naear dwyrain Maldwyn, Pumlumon a\'r gororau. Llefydd a chymeriadau\'r ardal hon ar hyd y canrifoedd sy\'n britho tudalennau\'r gyfrol o Lanrhaeadr ym Mochnant i Lanidloes ac o gyfnod Glyndŵr - a chynt - hyd at Siartwyr Llanidloes, Nansi Richards a Laura Ashley.

Gwybodaeth Bellach:
Mae’r cerddi hyn wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn naear dwyrain Maldwyn, Pumlumon a’r gororau. Llefydd a chymeriadau’r ardal hon ar hyd y canrifoedd sy’n britho tudalennau’r gyfrol o Lanrhaeadr ym Mochnant i Lanidloes ac o gyfnod Glyndŵr – a chynt – hyd at Siartwyr Llanidloes, Nansi Richards a Laura Ashley. Addas iawn, felly, fu cyfuno dawn eiriol Penri â thalent yr arlunydd Christine Mills o ddyffryn Banw. Mae cyfosod y ddau gyfrwng yn cynnig dau drywydd i ni. Cawn weld yr hyn a glywn yn y geiriau ar un llwybr a chlywed yr hyn a welwn yn y lluniau ar y llwybr arall.
Dyw hynny ddim yn golygu mai cerddi cul eu gorwelion a geir yn y gyfrol hon. Mae ambell gangen o’r goeden farddol hon yn lledu cyn belled ag Amsterdam a Nimes. Mynegant brofiadau sy’n gyffredin i bob llan a lle. Darllenwch y dilyniant dirdynnol ‘Muriau’, a gipiodd goron prifwyl Dinbych i Penri ac a seiliwyd ar ei brofiad helaeth fel athro a phrifathro a adawodd stamp ei ddylanwad ar genedlaethau o ddisgyblion.
Ceir tinc telynegol, diamheuol i’w gerddi caeth a rhydd ac nid yw’n syndod bod y ffin rhwng y gerdd a’r gân yn agos ar brydiau, o gofio am ei ddawn fel cydawdur cerddi cofiadwy Cwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn. Maen nhw’n gerddi’r ffin o safbwynt y Gymraeg hefyd a llwyddant i fynegi profiad brodor o’r ardal a lafuriodd ynddi trwy gyfrwng gweithredoedd a geiriau.