- Y Lliwiau i Gyd - Stori Betty Campbell
- ISBN: 9781845279493
- Casia Wiliam
- Cyhoeddi: Medi 2024
- Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 180 tudalen
Yn 2021 dadorchuddiwyd cerflun arbennig o Betty Campbell yng Nghaerdydd; prifathrawes ddu gyntaf Cymru. Ond pwy oedd Betty Campbell go iawn? Sut blentyndod gafodd hi yng nghymdeithas fywiog Bae Teigr, yn nociau Caerdydd yn y 1930au? A pha brofiadau siapiodd hi fel person?
Gwybodaeth Bellach:
Yn y nofel hon sy'n gwau ffaith a ffuglen cawn ddysgu rhagor am Betty a'i theulu, ei chyfnod fel ffoadur yn Aberdâr, ei phrofiadau yn yr ysgol a'i thaith ryfeddol wedi hynny.
Gyda digon o hanesion a dogn da o hiwmor, daw Betty yn fyw rhwng dau glawr, a chawn gip ar y person cryf a phenderfynol a ysbrydolodd sawl cenhedlaeth o blant y dociau a thu hwnt.
Mae bywyd ysbrydoledig Betty Campbell MBE (1934–2017), brodor o Dre-Biwt a phrifathrawes ddu gyntaf Cymru, yn agos at fy nghalon.
Mae nofel ddarllenadwy hon wedi’i hysgrifennu ar ffurf Betty yn adrodd stori ei bywyd fel gwers i ddosbarth o blant yn Ysgol Gynradd Mount Stuart – dull sy’n gweithio’n dra effeithiol. Mae’r brifathrawes yn cychwyn y stori yn ymateb i ddisgybl, Yassir Hassan, a ddatgelodd iddi ei bod wedi derbyn sylwad hiliol gan ddieithryn. Trwy dynnu ar esiamplau o fywyd ei hun, mae Betty yn rhannu gyda’r plant sut aeth ati i ymateb, herio a goresgyn hiliaeth a chaledi yn ei hoes.
Ganed ym Mae Teigr yn 1934 i rieni â’u gwreiddiau yn India’r Gorllewin. Fel prifathrawes mi ddaeth Betty yn adnabyddus am hyrwyddo hanes pobl dduon yn ysgolion a chwricwlwm amlddiwyddiannol, a chawn weld yn y nofel sut roedd gwreiddiau athroniaeth Betty tuag at addysg gynhwysol i’w chanfod yn ei phlentyndod, a’i phrofiad o gael ei chodi yng nghymuned amlgrefyddol, amlhiliol ac amlieithog y dociau.
Cawn ystod o gymeriadau o blentyndod Betty, cyfeillion a chyfoedion Cymreig sy’n dod o gefndiroedd amrywiol – Aifftwyr, Somaliaid, Norwyiaid, Malaysiaid – fel yr eglurodd Betty'r brifathrawes i’w ddisgyblion:
‘Mae’n bosib perthyn i fwy nag un wlad ac etifeddiaeth. Mae’n rhywbeth i fod yn falch ohono. Dwi’n Gymraes, ac yn falch iawn o hynny, ond mae gen i wreiddiau yn Jamaica, ac Iwerddon a Barbados, felly mae diwylliant y llefydd hyn i gyd yn perthyn i mi hefyd. Gallwn ni i gyd fod yn falch o’n cefndir, a dysgu am gefndiroedd ein gilydd hefyd.’
Mae’r nofel wedi llwyddo i greu argraff o ddynes alluog, garedig, gwydn a phenderfynol. Cafodd blentyndod heriol. Roedd ei thad yn forwr a byddai’n absennol am fisoedd ar y tro – absenoldeb anodd i blentyn. Bu Betty yn faciwî yn ystod yr ail ryfel byd wedi i’r dociau ddod yn darged i fomwyr Natsïaidd. Cafodd ei hanfon i Aberdâr lle dysgodd rywfaint o Gymraeg. Daeth ei fam ambell benwythnos i helpu ei gofalwraig wen trin ei gwallt!
Yn y bennod ‘Tro ar fyd’, mae Betty yn dysgu am ffawd ei thad yn yr ail ryfel byd; pennod ddirdynnol sydd wedi ysgrifennu ym modd sensitif a theimladwy. Serch y tor calon a’r caledi, llwyddodd Betty yn academaidd ac enillodd ysgoloriaeth i fynd i ysgol ramadeg lle wynebodd ragfarn atgas athrawes a cheisiodd arllwys dŵr oer ar freuddwyd ‘anymarferol’ merch ddu o gymhwyso’n athrawes ysgol: ‘Ewch yn ôl i’ch sedd a meddwl eto, Betty.’
Roedd Betty Campbell yn arloeswraig ym maes dysgu hanes pobl dduon mewn ysgolion; mae dysgu hanes pobl dduon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol bellach wedi’i gynnwys yng Nghwricwlwm Cymru. Gyda chynrychiolaeth yn bwysig ar y cwricwlwm mae hefyd yr un mor bwysig yn ein llenyddiaeth, ac mae’n wych o beth fod y gyfrol ddarllenadwy ac addysgiadol hon wedi dod ȃ stori ysbrydoledig un o Gymry Du pwysicaf ein cyfnod i blant a phobl ifanc yn y Gymraeg.
Malachy Edwards
Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru.