This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Cegin

  • £16.00
  • £0.00
  • ISBN: 9781845275372
  • Nici Beech
  • Cyhoeddi Hydref 2016
  • Fformat: clawr caled, 247x177mm, 160 tudalen

Mae\'r llyfr coginio hwn yn gwneud defnydd o gynnyrch yn ei dymor mewn ffordd syml, flasus.  Gellir gwneud nifer helaeth o\'r seigiau mewn un pot, heb lawer o offer cymhleth, sy\'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr a theuluoedd prysur.  Cyfrol ddarluniadol mewn lliw llawn.

Gwybodaeth bellach:

Dechreuodd diddordeb Nici mewn coginio wrth draed ei mam, a byth ers hynny mae wedi mwynhau arbrofi yn y gegin.  Sefydlodd fwyty pop-yp yng Nghaernarfon rai blynyddoedd yn ôl, a hyd heddiw mae\'n darparu bwydydd blasus ar gyfer digwyddiadau yn yr ardal.  Hi yw un o sylfaenwyr Gŵyl Fwyd Caernarfona Gŵyl Arall.

Mae\'r llyfr coginio hwn yn gwneud defnydd o gynnyrch yn ei dymor mewn ffordd syml, flasus.  Gellir gwneud nifer helaeth o\'r seigiau mewn un pot a heb lawer o offer cymhleth, sy\'n ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr a theuluoedd prysur.  Mae symbolau arbennig yn cael eu defnyddio i nodi lle gellir addasu\'r rysait i gydfynd â deiet gwahanol e.e. figan, diglwten, di-laeth ac ati, ac i nodi\'r prydau hynny y gellir eu paratoi mewn hanner awr neu lai.

Wrth gwrs, mae yma ddanteithion tipyn llai iachus hefyd - ond mae\'n rhaid cael amrywiaeth mewn bywyd, does!