- Arwyr Argyfwng a'r Bad Achub
- ISBN: 9781845279479
- Caryl Parry Jones, Craig Russell
- Cyhoeddi: Hydref 2024
- Darluniwyd gan Jacob Fell
- Fformat: Clawr Meddal, 210x210 mm, 40 tudalen
Mae'r llyfr hwn yn dilyn anturiaethau Wini, llygoden fach sy'n gweithio i'r Gwasanaethau Brys. Dyma stori hwyliog gyda Wini'r cymeriad hoffus ar flaen y gad unwaith eto wrth iddi fynd ar antur ar y bad achub yn y gyfrol gyntaf hon.
Bywgraffiad Awdur:
Straeon gan Craig Russell, nofelydd ac awdur straeon byrion a Caryl Parry Jones sy’n gerddor, actores, a chyflwynydd.
Dylunydd graffeg/ arlunydd plant o Gymru yw Jacob Fell. Mae wedi gweithio ar gyfresi teledu a ffilm ac ef yw perchenog stiwdio Magic Otter. Ei waith amlycaf yng Nghymru yw cymeriad ‘Sali Mali’ – ond mae wedi creu sawl cymeriad unigryw ei hun hefyd.
Gwybodaeth Bellach:
Ar ddiwrnod braf a'r haul yn tywynnu, mae Moli a'i chriw o Arwyr Argyfwng yn mynd i lan y môr, ac mae pawb am gael hwyl.
Ond mae Pws Pen Bach yn gwneud rhywbeth ffôl iawn drwy beidio gwrando ar yr Arwyr Argyfwng ... ond dyna lwcus bod y criw wrth law i'w helpu, ac i achub y dydd.
Hon yw'r stori gyntaf yng nghyfres gyffrous yr Arwyr Argyfwng, gan Craig Russell a Caryl Parry Jones, awduron cyfres lwyddiannus Tomos, Llygoden y Theatr.