ISBN: 9781845270766
Awdur: David Thomas
Cyhoeddi Mawrth 2007
Golygwyd gan Robin Evans
Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 388 tudalen
Argraffiad o glasur am hanes morwriaeth Cymru gyda chyflwyniad newydd. Mae'n astudiawth ranbarthol bwysig ac edrychir ar sawl agwedd ar hanes morwrol Cymru gan gynnwys hanes smyglwyr, pysgotwyr, porthladdoedd, llongau a morwyr.
Adolygiad Gwales
Roedd cyhoeddi clasur David Thomas, Hen Longau Sir Gaernarfon, yn ôl yn 1952 yn ddigwyddiad o dragwyddol bwys yn hanesyddiaeth forwrol Cymru. Flynyddoedd wedyn, fe ddisgrifiwyd y gyfrol fel ‘goleudy unig’ gan y diweddar Aled Eames, a ysbrydolwyd yn ddirfawr ganddi yn ei dro. Mae’r gyffelybiaeth i oleudy yn un hynod berthnasol, oherwydd dyma un o’r cyfrolau cyntaf i ddechrau taenu golau ar yr hyn oedd ar y pryd yn gaddug trwchus hanes ein cysylltiadau â’r môr. Mawr felly yw’r croeso i’r ail argraffiad hwn, gan fod y gwreiddiol bellach yn hynod brin.
Wrth natur, mae’r argraffiad newydd yn dilyn y gyfrol wreiddiol yn agos. Ceir fersiwn lliw deniadol o’r clawr cyntaf, ac mae’r mapiau gwreiddiol yn ailymddangos yn ogystal. Eithr yn wahanol i fersiwn 1952, cynhwysir dros ddeg ar hugain o luniau yn yr argraffiad newydd. Mae’r detholiad yn un difyr a pherthnasol, er bod y capsiynau yn siomedig o swta gan gofio pa mor ddiddorol yw’r golygfeydd mewn cynifer ohonynt; maent hefyd, ambell waith, yn anghywir. Nid un o longau Nefyn, er enghraifft, ond un o longau William Thomas, Llanrhuddlad a Lerpwl, oedd y Pengwern (t.43). Cafodd ambell lun hefyd ei docio’n hynod esgeulus, yn enwedig felly'r llun hyfryd o’r sgwner Jane Banks (t.38), lle mae hanner y ‘bowsprit’ gosgeiddig a starn luniaidd y llong wedi diflannu. Does dim esgus o gwbl am y fath flerwch.
Bellach, aeth dros hanner canrif heibio ers cyhoeddi Hen Longau Sir Gaernarfon, ond gan mor drylwyr oedd ymchwil David Thomas, mae’r llyfr yn dal ei dir (i ddefnyddio priod-ddull hollol anaddas yn y cyd-destun hwn!) hyd at heddiw. Serch hynny, bu’r cyfnod ers cyhoeddi’r llyfr yn hanner canrif o ddirywiad enbyd yn nhraddodiadau morwrol yr hen sir, gyda llawer mwy o bobl, mae’n debyg, yn mynd i’r môr heddiw i blesera yn hytrach nag elwa. Mewn ffordd, mae’r llyfr ei hun bellach yn rhan o’n hanes, a byddai’r ail argraffiad hwn wedi bod ar ei ennill petai’r cyflwyniad dipyn yn helaethach, er mwyn ymdrin â’r newidiadau a fu ers 1952, a’u harwyddocâd.
Ond wedi dweud hyn, roedd ailgyhoeddi Hen Longau Sir Gaernarfon yn syniad ardderchog. Mae’n dda ei fod ar gael unwaith eto, a hynny am y pris digon rhesymol o £12. Yn sicr, rwy’n cyfrif fy nghasgliad personol o lyfrau’r môr dipyn yn fwy cyflawn wedi ychwanegu’r gyfrol hon ato.
David Jenkins