- Atgofion drwy Ganeuon: Diawl Bach Lwcus
- ISBN: 9781845277215
- Geraint Davies
- Cyhoeddi Hydref 2019
- Fformat: Clawr Meddal, 199x128 mm, 150 tudalen
Atgofion drwy ganeuon Geraint Davies. Yn wyth mlwydd oed, cwympodd Geraint Davies mewn cariad â chanu pop a roc. Ac mae yna stori bersonol neu ffrwyth dychymyg, y tu ôl i bob cân...
Gwybodaeth Bellach:
Yn wyth mlwydd oed, cwympodd Geraint Davies mewn cariad â chanu pop a roc. Gymrodd hi ddegawd arall cyn iddo fe ddechrau cyfansoddi o ddifri', ond ers hynny mae'i ganeuon wedi'u recordio gan nifer o grwpiau y bu ac y mae'n aelod ohonyn nhw - Gwenwyn, Hergest, Y Newyddion a Mynediad am Ddim ynghyd ag amrywiaeth o artistiaid eraill, o John ac Alun i Margaret Williams, o Heather Jones i Ray Gravell. Mae ei gân 'Hei Mistar Urdd', wedi tyfu'n anthem i filoedd o blant ar hyd y blynyddoedd. A mae yna stori, bersonol neu ffrwyth dychymyg, y tu ôl i bob cân...
'I fi, ma' caneuon fel plant mae'n wyrthiol sut maen nhw'n cyrraedd, ma' ishe gofal arnyn nhw cyn iddyn nhw fynd mâs i'r byd, ac os odyn nhw'n llwyddo ai peidio, maen nhw wastad yn destun balchder i'r rhai wnaeth eu meithrin nhw.' Geraint Davies