- ISBN: 9780863818448
- Awdur: Gerwyn Williams
- Cyhoeddi Gorffennaf 2003
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 64 tudalen
Casgliad o 30 cerdd vers libre gan y Prifardd Gerwyn Williams yn adlewyrchu cydwybod cymdeithasol y bardd ynghyd â sylwadau treiddgar am ryfel, magu plant a'r ymchwil am dawelwch mewn cyfnodau cythryblus. 15 llun du-a-gwyn.
Adolygiad Gwales
Dma’r bumed gyfrol o gerddi gan y Prifardd Gerwyn Wiliams, ac mae’n amlygu nifer o’r nodweddion hynny sydd bellach yn gyfarwydd yn ei waith.
Mae yma, fel arfer, ffotograffau gafaelgar a chynnil sy’n egluro cefndir ambell gerdd, neu’n taflu goleuni gwahanol arni. Cawn hefyd y plethu cyfarwydd ar themâu a safbwyntiau. Ceir ar y naill law dynerwch synhwyrus y dyn teulu wrth ganfod gwyrthiau bywyd bob dydd ('Canu’r Piano'), ac ar y llaw arall fyd-olwg eironig y gwybodusyn sinigaidd ('Man Gwyn'). Portreadir yr ymdeimlad o ddieithrwch a ddaw i’r sawl sy’n adnabod hanes a thraddodiad o orfod ymwneud â’r byd ôl-fodern ('Tafarn Tawelwch'), ond hefyd ceir ymdriniaeth gymharol ôl-fodern ei naws a’i thactegau o hanes a thraddodiad ('Cofio’r Daith').
O ran eu hieithwedd a’u rhethreg farddol, mae’r cerddi hefyd yn tueddu i ddefnyddio nifer o’r technegau yr ydym wedi dod i’w cysylltu â gwaith Gerwyn Wiliams. Fel yn achos un arall o feirdd Coleg Bangor, Gwyn Thomas, mae’r deud yn tueddu i fod yn blaen ac yn uniongyrchol, yn wrth-delynegol bron. Yn ei weithiau vers libre, mae hyn yn aml yn cyd-fynd â llinellau cyflawn sy’n dynodi unedau synnwyr:
Ffarweliwn â Ffrainc,
dy adael dithau unwaith eto ar ôl,
ond bydd y gwynt yn dal i chwythu uwch dy fedd,
y gwynt gonest, ffyddlon
yn dal i warchod
tra rhown ninnau drefn
ar luniau’r trip,
eu didoli’n ddiogel
rhwng cloriau’r albwm.
Mae terfynau’r llinellau hefyd, mi dybiaf, yn dynodi lle y dylid seibiannu wrth ddarllen y cerddi hyn yn uchel. Yn wahanol i gerddi telynegol, nid oes dim yn arbennig o syfrdanol yn sŵn y geiriau, yn arbennig o drawiadol yn y delweddau, nac yn arbennig o wreiddiol yn y dull ymadroddi yma. A dyma yw’r pwynt. Adlais ym maes cyfyng barddoniaeth Gymraeg o farn Theodor Adorno na all yna fod unrhyw farddoniaeth delynegol, yn sgil Auschwitz. Yn wir, un o dechnegau Gerwyn Wiliams yn aml yw defnyddio rhai o ddyfyniadau cyfarwydd canon barddoniaeth delynegol Gymraeg er mwyn rhoi pìn yn swigen y traddodiad. Mae’r gerdd hir 'Cofio’r Daith', sy’n sôn am drip i’r cyfandir, yn parodïo 'Llongau Madog':
wele’n cychwyn
ddau fws o Lerpwl, Cilgwri, Penbedw
a cherdd sy’n sôn am eira’n troi’n slwts yn dechrau 'Eira, eira ...' gan adleisio telyneg feistrolgar Alan Llwyd i rym trawsffurfiol natur, 'Eira, eira, hwyr y dydd'. Dyma’r gêmau y bydd Gerwyn Wiliams yn eu chwarae gyda’i ddarllenwyr er mwyn herian rhagdybiaethau cysurus Cymru’r telynegion.
Yn bersonol dwi’n hoff o Gymru’r telynegion, a wela i ddim rheswm pam na ddylai ei hieithwedd, ei thechnegau a’i harddulliau hi gael eu defnyddio mewn ffordd an-eironig i sôn am ein byd heddiw. Yn y pen draw, ni ddylid barnu’r hyn a ddywedir yn unig ar sail y modd y dywedir ef. Wedi dweud hynny, dwi’n falch fod Gerwyn Wiliams yno, gyda Marshall McLuhan a’r dadadeiladwyr oll, i’m hatgoffa nad oes modd, bob tro, i ddatod, mor rhwydd ag y dymunwn innau, y neges oddi wrth y modd y trosglwyddir hi.
Emyr Lewis