- Melinau Llŷn
- ISBN: 9781845245788
- Glyn Roberts
- Cyhoeddi: Ionawr 2024
- Fformat: Clawr Meddal, 210x148 mm, 200 tudalen
Dyn â diddordeb mewn crefftau a hen offer ydi Glyn Roberts, Murpoeth, Bryncroes. Mae hefyd yn chwilotwr dyfal drwy hen ddogfennau, hen gofnodion, hen fapiau a hen luniau. Pan oedd corff treftadaeth Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn eisiau creu arolwg o hen felinau'r ardal, roedd yn naturiol iddyn nhw droi at y gwladwr gwybodus ond diymhongar hwn i wneud y gwaith.
Gwybodaeth Bellach:
Casglodd Glyn wybodaeth am dros hanner cant o felinau. Mae'r rheiny'n cael eu dosbarthu ganddo yn felinau ŷd, melinau gwlân a melinau gwynt. Gyda chydweithrediad Plas Glyn y Weddw a nawdd pellach gan ymddiriedolaeth Sefydliad y Teulu Ashley a Cronfa Ddatblygu Cynaliadwy cyflwynwyd arddangosfa unigryw o'i waith yn yr oriel yng ngaeaf 2024.
Ffrwyth ei ymchwil a'i gariad at hen grefftau gwledig yw'r gyfrol hon.
Cyhoeddir gan Plas Glyn y Weddw / Gwasg Carreg Gwalch