This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Dyddie Da- Atgofion drwy Ganeuon:

  • £7.99
  • Atgofion drwy Ganeuon: Dyddie Da
  • ISBN: 9781845277000
  • Delwyn Siôn
  • Cyhoeddi: Awst 2024
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 132 tudalen
Y diweddaraf yng nghyfres boblogaidd Atgofion drwy Ganeuon, Gwasg Carreg Gwalch. Cawn ddilyn yn ôl troed y gyfres hon gan ganfod goleuni ar gynnyrch ac awen y canwr a'r cyfansoddwr unigryw, Delwyn Siôn.
Gwybodaeth Bellach:
‘Pe bawn i’n gallu dweud wrth Dat-cu ...’
Dyna linell gyntaf y garol ‘Un Seren’. A dyna le da i ddechrau ar daith atgofion y gyfrol hon gan Delwyn Siôn. Yn ei eiriau ei hun,
‘“Bûm yn hir yn sad gysidro,” medd yr hen bennill. Ac yn wir i chi, dyna oedd fy hanes wrth ystyried ysgrifennu’r llyfr hwn. Gwrthod y cynnig wnes i’n wreiddiol, ond yna mi gytunais, a hynny, yn fwy na dim, er mwyn cael rhoi peth o hanes fy nheulu ar gof a chadw.’
Cawn, cawn fwy o hanes ‘Dat-cu’ a llawer mwy o'i deulu yn ‘Sweet 'Berdâr’ a Chwm Nedd, o'i gefnder enwog i'w gyfeillion ysgol, myfyrwyr Aber, Hergest, Omega a Mynediad am Ddim, criw Theatr Genedlaethol yr Urdd a helyntion amrywiol Côr Aelwyd Cwm-Rhyd-y-Chwadods! Mae yna eiliadau doniol ac eiliadau trist, a thrwy'r cyfan, mae cynhesrwydd yn y cariad sydd yma at ei fro ac at sawl cenhedlaeth o’i deulu.
Mi gawn gofio eto am gyfoeth y cwm a’r colier, y caledi a’r canu, ‘Gyda mwgyn a mwffler a mynyffarni …
Felly, diolch am rannu’r daith, Delwyn – mi roedden nhw’n ‘ddyddie da’.