This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Gwilym Roberts - Dros Ysgwydd y Blynyddoedd

  • £8.99
  • Hunangofiant Gwilym Roberts - Dros ysgwydd y blynyddoedd
  • ISBN: 9781845277178
  • Gwilym Roberts
  • Cyhoeddi: Awst 2024
  • Cyhoeddwr: Gwasg Carreg GwalchFformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 150 tudalen
Hunangofiant gŵr o Gaerdydd sydd wedi gwneud cyfraniad unigryw i adfywiad y Gymraeg yn y de-ddwyrain, yn arweinydd Aelwyd yr Urdd a sefydlydd cadwyn o ddosbarthiadau dysgwyr a chyrsiau trochi Llangrannog a Glan-llyn.
Gwybodaeth Bellach:
Mae Gwilym Roberts yn perthyn i ganrif y deffroad o safbwynt y Gymraeg lle gwelwyd awydd i fyw mewn Cymru go iawn. Bu dylanwad ei rieni yn drwm arno ac oherwydd eu hymroddiad a’u parodrwydd i gwffio er mwyn i’w meibion gael gwersi Cymraeg yn yr ysgol, rhoddwyd ynddo yntau’r rhuddin i weithio dros y Gymraeg ar hyd ei oes.
Yn y llyfr hwn cawn ei hanes personol, ond yn enwedig, hanes ei waith dros y Gymraeg yn ardal Rhiwbeina ac yng Nghaerdydd yn ehangach. Roedd awydd ynddo i weld Caerdydd yn brifddinas deilwng i Gymru, a bu’n rhan allweddol o sefydlu a hybu sawl cymdeithas a gyfrannodd tuag at hynny. Bu’n rhan annatod o gefnogi ac annog pobl o bob oed i ddysgu’r iaith, a chafodd y pleser o weld sawl un o’r rheini’n datblygu i fod yn arweinwyr cymdeithas.
Dyma hanes unigolyn a wnaeth gyfraniad tawel ond sylweddol i Gymru heddiw.