This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.
- ISBN: 9781845273453
- Gwilym Griffith
- Cyhoeddi Tachwedd 2011
- Golygwyd gan Ioan Roberts
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm
Ffarmwr, gwerthwr wyau, actor, canwr, adroddwr, cynhyrchydd dramâu, arweinydd corau, cymanfaoedd a nosweithiau llawen ... prin iawn ydi\'r bobl sydd wedi cyfuno cymaint o weithgareddau yn ystod ei oes â Gwilym Griffith, Llwyndyrys. Mae hiwmor a hynawsedd yr awdur yn pefrio ar bob tudalen, a\'r portread cynnes o gymuned fywiog sydd \'yma o hyd\'.
Gwybodaeth Bellach;
Cawn ddysgu rhywfaint o gyfrinach y cwmni rhyfeddol hwn, a fu’n swyno cynulleidfaoedd o Lŷn i Drelew. Nid cofnod catalogaidd sydd yma ond hanesion difyr gan storïwr greddfol a ffraeth. Mae’n rhoi cipolwg ar ymroddiad a theyrngarwch y cwmni wrth iddyn nhw ddatblygu eu crefft gyda chefnogaeth pobl fel Charles Williams a John Gwilym Jones. Cawn glywed am y tynnu coes a’r troeon trwstan, fel yr adeg pan gafodd y cerbyd oedd yn cario’u set trwy Gaerdydd ei gamgymryd am gyflenwyr arfau yr IRA.
Mae straeon teuluol yr awdur hefyd yn llawn drama, fel hanes ei dad yn dianc o’i gartref i ymladd yn y rhyfel byd cyntaf. A chawn enghreifftiau lu o ffraethineb unigryw cymdeithas y chwareli ithfaen yn ogystal â gwreiddioldeb hen ŷd y wlad.