This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Y Clerwr Olaf

  • £8.00
  • £0.00
  • Y Clerwr Olaf
  • ISBN: 9781845279042
  • Twm Morys
  • Cyhoeddi: Mai 2023
  • Fformat: Clawr Meddal, 198x128 mm, 128 tudalen

Does dim angen cyflwyno Twm Morys na'i ganeuon ac yn sicr does dim angen dweud y bydd yr annisgwyl a'r rhyfeddol yn britho drwy'r gyfrol hon. 'Straeon yw 'nghaneuon i ' meddai Twm. Yn y gyfrol hon mae penodau yn ymdrin ag un ar hugain o ganeuon, a phenodau'n llawn straeon ydyn nhw; straeon am seintiau a sipsiwn, straeon am delynorion a blaenoriaid, straeon sy'n mynd â ni ar daith yng nghwmni'r bechgyn o lannau Merswy, Iwan Llwyd, cerddorion Bob Delyn a chwmnïwyr difyr o Lydaw i Drelew. Mae yma hefyd ymdriniaeth fanwl ag un o'r caneuon mwyaf arwyddocaol yn yr iaith Gymraeg, sef 'Trên Bach y Sgwarnogod'.

Clustfeinio ar y storïwr a chael ein diddanu wnawn ni, ond cadw mewn cof hefyd ei nodyn bach cyntaf ar ddechrau'r daith: 'Mae egluro union ystyr cân yr un fath i mi â tharo pin drwy löyn byw. Mi ddylai cân gael mynd lle mynno (o fewn rheswm), achos dydi hi ddim o reidrwydd yn golygu yr un peth yn union i'r sawl sy'n gwrando arni ag oedd i'r sawl a'i gwnaeth. Dydi hi ddim o reidrwydd yn golygu'r un peth i hwnnw ymhen amser, chwaith ...