- ISBN: 9781845271336
- Cyhoeddi Tachwedd 2009
- Golygwyd gan Rheinallt Llwyd, Huw Owen
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 160 tudalen
Arweinlyfr i ffynonellau hanes lleol ac achau teulu. Amcan y gyfrol hon - y gyntaf o'i bath yn y Gymraeg - yw cynnig rhagarweiniad cyffredinol i'r prif ffynonellau sydd ar gael i'r sawl sy'n dymuno olrhain hanes bro a theulu yng Nghymru.
Bywgraffiad Awdur:
Rheinallt Llwyd (Cyd-olygydd)
Brodor o Faengwynedd ond treuliodd y rhan fwyaf o’i blentyndod a’i lencyndod yn Nolwyddelan, a Thaicynhaeaf (ger Dolgellau). Addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Llyfrgellwyr Cymru. Bu ar staff Llyfrgell Ceredigion cyn dychwelyd yn aelod o staff Coleg Llyfrgellwyr Cymru (Adran Astudiaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth, yn ddiweddarach) hyd ei ymdeoliad yn 2006. Cyhoeddodd nifer o erthyglau, yn Gymraeg a Saesneg, ar hanes y fasnach lyfrau yng Nghymru, a golygodd Gwarchod y Gwreiddiau - Cyfrol goffa Alun R. Edwards (1996), Llanrhystud-Llanddeiniol (2004) a Bro a Bywyd Islwyn Ffowc Elis (2007).
D. Huw Owen (Cyd-olygydd)
Yn frodor o Cross Hands, sir Gaerfyrddin, fe'i addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Yn archifydd proffesiynol, bu’n Geidwad Darluniau a Mapiau yn y Llyfrgell Genedlaethol Cymru hyd at ei ymddeoliad yn 2001. Cyn hynny, bu’n dysgu yng Ngholeg Llyfrgellwyr Cymru, Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd. Mae ei gyhoeddiadau yn cynnwys Settlement and Society in Wales (1989) [golygydd a chyfrannwr]; Cwm Gwendraeth a Llanelli (1989); Mapiau Printiedig Cynnar o Gymru (1996); a Capeli Cymru (2005).
Gwybodaeth Bellach:
Amcan y gyfrol hon – y gyntaf o’i bath yn y Gymraeg – yw cynnig rhagarweiniad cyffredinol i’r prif ffynonellau sydd ar gael i’r sawl sy’n dymuno olrhain hanes bro a theulu yng Nghymru.
Ceir ymdriniaeth â’r cofnodion a grëwyd gan lywodraeth leol ar hyd y canrifoedd yn enwedig ar lefel y plwyf, yn eglwysig a sifil, ac edrychir ar dystiolaeth y gwahanol lysoedd oedd yn gweinyddu cyfiawnder.
Dangosir mor bwysig oedd herodraeth ar un adeg yng Nghymru ac fel y bu i dwf y stadau tirfeddiannol adael gwaddol amhrisiadwy o gofnodion i haneswyr cymunedol.
Trafodir arwyddocâd y tirwedd ac adeiladau fel dogfennau yr un mor bwysig â’r deunydd llawysgrifol sydd wedi goroesi, boed y rheiny yn ddogfennau profeb neu ffynonellau morwrol.
Astudir hefyd bwysigrwydd mapiau a darluniau a ffotograffau, hen faledi ffair a thystiolaeth cerrig beddau yn ogystal â ‘hanes llafar’, sef yr wybodaeth nad yw ar gael yn unman, yn aml, ond ar gof unigolion.
Ychwanegir at hyn ddeunydd printiedig amrywiol, gan gynnwys papurau newydd a’r Cyfrifiad ac arwyddocâd enwau lleoedd ac fe welir fod rhychwant eang o bynciau’n cael eu trafod yn y gyfrol hynod ddefnyddiol hon.