- Leila Megane: Anwylyn Cenedl
- ISBN: 9781845279158
- Ilid Anne Jones
- Cyhoeddi: Mehefin 2023
- Fformat: Clawr Meddal, 215x138 mm, 172 tudalen
Cwbl briodol fu cychwyn y bererindod gerddorol hon ym Mhwllheli, a'i gorffen ychydig filltiroedd oddi yno hefyd. Bu i Leila Megane deithio 'mhell oddi cartref, ond i ba le bynnag yr elai â'i â rhan o fro ei mebyd gyda hi.
Bywgraffiad Awdur:
ILID ANNE JONES pianydd, organydd ac arweinydd corawl, yn enedigol o Dalysarn yn Nyffryn Nantlle, Arfon. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor ac ennill gradd Baglor mewn Cerddoriaeth (B.Mus) ac yna Athro mewn Athroniaeth (M.Phil) ar waith a bywyd Leila Megàne ar arddull leisiol Bel Canto. Erbyn hyn mae Ilid Anne Jones yn byw yn Waen Wen ger Bangor.
Gwybodaeth Bellach:
Roedd ei gwreiddiau'n ddwfn ym Mhen Ll?n, ac er iddi berfformio o flaen tywysogion a phwysigion y dydd, nis anghofiodd am funud mai merch o gefndir gwerinol ydoedd, ac mai Cymraes a dderbyniodd freintiau lu oedd hi hefyd.
Ceisiwyd yma gofnodi ei hanes, gan roi i'r darllenydd adlewyrchiad o'i chyfraniad unigryw i'r byd cerddorol. I'r werin bobl, byd pell a dieithr oedd y byd proffesiynol hwnnw yr oedd Leila Megane yn perthyn iddo. Eithr wrth holi'r rhai oedd yn ei chofio a'i hadnabod, cawn fod y darlun beth yn wahanol. Drwy ddod i gysylltiad personol â hi roedd edmygedd a pharch mawr tuag ati.
Cantores gyda llais unigryw oedd Leila Megàne, ac er i nifer o erthyglau gael eu hysgrifennu amdani, eto person preifat, gyda nifer o elfennau cuddedig yn ei chymeriad, oedd hi. Gobeithio y bydd y bywgraffiad hwn yn fodd i ddyfnhau ein hadnabyddiaeth ni ohoni fel gwraig, yn ogystal â chantores fyd enwog ei chyfnod.