- Maes y Magnelau - Hanes Gwersyll Milwrol Trawsfynydd
- ISBN: 9781845276553
- Keith O'Brien
- Cyhoeddi Gorffennaf 2018
- Fformat: Clawr Meddal, 150x155 mm, 128 tudalen
Un o berlau annisgwyl a llai hysbys o hanes a threftadaeth Trawsfynydd yw Cwm Dolgain. Nid yn unig iddo fod yn gartref i henebion diddorol megis Llech Idris, maen hir o'r Oes Efydd a Bedd Porius, bedd Esgob o'r 5ed ganrif, ond bu hefyd yn faes tanio i'r Fyddin Brydeinig am bron 60 mlynedd o 1903.
Tabl Cynnwys:
Mae hanes gwersyll milwrol Trawsfynydd o 1903-1959 yn enghraifft enwog o feddiannu tir Cymru at ddefnydd lluoedd arfog Llundain. Dyma ardal sy'n byrlymu o dreftadaeth a diwylliant Cymraeg. Ond doedd hynny ddim yn hidio dim ar y peiriant rhyfel a wagiodd y rhosydd o'i amaethwyr a'i ddefnyddio i ymarfer tanio magnelau, gwersyll carcharorion rhyfel a dibenion eraill oedd yn 'angenrheidiol' i'r Ymerodraeth Brydeinig.
Clywed y gynnau mawr yn tanio yma a roddodd flas cyntaf o'r rhyfel i Hedd Wyn yn ei gartref yng Nghwm Prysor gerllaw. Bu hynny yn destun ysgrif gan Dyfnallt: "Y noson honno yn y Traws, pan adroddwn helynt y tanio ynfyd, yr oedd golau gwyllt yn llygad Hedd Wyn; ac nid oedd neb yn fwy huawdl yn erbyn y ffieiddbeth halog oedd yn puteinior fro nag efe."
Ar ddechrau'r 1950au, gwelwyd yno brotestiadau Plaid Cymru yn erbyn ymestyn y maes tanio gyda neb llai na Gwynfor Evans yn arwain drwy ddefnyddio dull di-drais Gandi o wrthwynebu'r drefn. Eto, mae cymaint na wyddom am hanes y gwersyll. Yn y gyfrol hon, mae'r hanes llawn, yr ymateb lleol a chasgliad arbennig o luniau hanesyddol a chyfoes yn gweld golau dydd am y tro cyntaf.
Bywgraffiad Awdur:
Keith OBrien Yn enedigol o Drawsfynydd yng Ngwynedd, mae Keith yn briod gyda dwy ferch. Maen aelod o Gyngor Cymuned Trawsfynydd ers 1995 ac yn Gadeirydd ar gwmni cymunedol Traws-Newid ers ei ymgorffori yn 1998. Mae hefyd yn gadeirydd Cyfeillion yr Ysgwrn, gr?p o wirfoddolwyr syn cyfrannu at nod ac amcanion prosiect yr Ysgwrn (cartref Hedd Wyn), syn cael ei warchod bellach gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Mae ganddo nifer o diddordebau, megis hanes lleol, cerdded a beicio ond heb os nag oni bai, tynnu lluniau yw ei brif ddiddordeb.