This store requires javascript to be enabled for some features to work correctly.

Bargen
Bargen

Bach a Mawr

  • £4.95
  • £0.00
  • Bach a Mawr
  • ISBN: 9781845279202
  • Luned Aaron
  • yhoeddi: Mehefin 2023
  • Fformat: Clawr Caled, 190x150 mm, 32 tudalen

Cyfrol hardd a hwyliog, llawn amrywiaeth, sy'n gyflwyniad i'r llu o gyferbyniadau sydd ym myd yr anifeiliaid. Anrheg delfrydol i blant bach sy'n dechrau dod i adnabod y byd.

Bywgraffiad Awdur:

Mae Luned Aaron yn awdur ac artist gweledol. Enillodd radd BA mewn Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, cyn astudio yn y Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Denmarc. Aeth ymlaen i ennill gradd Meistr mewn Cynllunio Theatr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Enillodd Fedal Ddrama Eisteddfodau'r Urdd deirgwaith a bu'n canolbwyntio ar ysgrifennu i'r llwyfan, radio a'r sgrîn gan hyfforddi a darlithio yn y maes. Bellach, mae wedi camu i faes cyhoeddi ac yn cyd-redeg gwasg Llyfrau Broga Books gyda'i g?r, Huw Aaron. Yn 2017, enillodd wobr Tir na n-Og am ei chyfrol gyntaf, ABC Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch).

Gwybodaeth Bellach:

Dyma enghreifftiau o'r cynnwys:

Mawr / Bach (Eliffant a Llygoden)

Swnllyd / Tawel (Llew a Physgodyn)

Tal / Byr (Jiráff a Madfall)

Trwm / Ysgafn (Morfil a Glöyn Byw)